Mae’r dirwedd wleidyddol yng Nghymru ar hyn o bryd yn debyg i’r hyn oedd hi cyn etholiad cyntaf y Cynulliad yn 1999, yn ôl yr Arglwydd Dafydd Wigley.

Fe fu cyn-arweinydd Plaid Cymru’n siarad â golwg360 27 o flynyddoedd ers y refferendwm i sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ddaeth yn Senedd Cymru maes o law.

Ac mae’n dweud bod yr hinsawdd sydd ohoni heddiw’n debyg iawn i’r cyfnod hwnnw.

“Hynny yw, bydd yr etholiad yn dod ddwy flynedd ar ôl i Lafur gael eu hethol efo mwyafrif ysgubol yn San Steffan,” meddai.

“Erbyn 2026, dw i’n siŵr fydd rhan o’r sglein yn dechrau gwisgo oddi ar y Llywodraeth Lafur yn Llundain.

“Mae’r sglein yn sicr wedi gwisgo i ffwrdd o Lywodraeth Lafur Cymru yng Nghaerdydd.”

Ychwanega ei fod yn “teimlo dros” Eluned Morgan o ganlyniad i’r “pàs ysbyty” mae hi “wedi’i hetifeddu” yn dilyn cyfnod Vaughan Gething yn y swydd.

Plaid Cymru’n fwy parod i lywodraethu

Er bod Dafydd Wigley yn amlinellu’r tebygrwydd rhwng yr etholiad a fu yn 1999 a’r etholiad sydd i ddod ymhen dwy flynedd, dywed fod Plaid Cymru mewn cyflwr gwell i lywodraethu erbyn hyn.

“Er fy mod i’n gweld sefyllfa debyg iawn yn y ddau etholiad, y gwahaniaeth ydy bod Rhun efo dwy flynedd o rybudd y gallai o fod yn Brif Weinidog, ond ges i ddau funud o rybudd!”

Yn ystod y cyfri yn 1999, meddai, roedd yna adeg ar y noson pan oedd siawns gref y byddai’n dod yn Brif Weinidog cyntaf Cymru.

Alun Michael oedd yn fuddugol yn y pen draw ac, yn ôl Dafydd Wigley, roedd yn hapus i ryw raddau gan ei fod yn gwybod nad oedd o na’r Blaid “yn barod” am y cyfrifoldeb hwnnw bryd hynny.

“Ond mae Rhun ap Iorwerth mewn sefyllfa lle mae o’n gallu paratoi a chael y Blaid i baratoi i gael yr adnoddau angenrheidiol, ac i gael y bobol iawn yn y lle iawn i fod yn ffurfio llywodraeth,” meddai.

Wrth ymateb i’r newyddion fod 31% o bobol mewn arolwg barn yn cefnogi diddymu’r Senedd yng Nghymru, pwysleisia Dafydd Wigley mai gweld plaid arall yn llywodraethu yw’r unig ffordd “o bwyso a mesur” sefydliad y Senedd.