Mae Siân Gwenllian wedi lleisio pryderon wrth golwg360 ynghylch penderfyniad Llywodraeth Cymru i ohirio’r cynlluniau ar gyfer cwota rhywedd yn etholiadau Senedd Cymru.

Dywed ei bod hi’n “hynod siomedig” ynghylch y penderfyniad, yn enwedig “bod hyn wedi dod gan Brif Weinidog benywaidd cyntaf Cymru”.

Ychwanega ei bod yn “neges anffodus” o ran ymrwymiad y Prif Weinidog i gydraddoldeb i fenywod, ac yn “fater sylfaenol o degwch i fi bod hanner o’r boblogaeth yn cael ei gynrychioli”.

Penderfyniad “anarferol iawn”

“Dydi’r penderfyniad terfynol ddim wedi digwydd eto, ond mi fydd yna drafodaeth yn y Senedd ddydd Mawrth (Medi 24) am gynnig i dynnu’r bil yn ôl,” meddai Siân Gwenllian.

“Mae hyn yn rhywbeth anarferol iawn i ddigwydd pan fo’r holl waith craffu wedi digwydd, a phan fod y Senedd ei hun wedi cytuno ar egwyddorion cyffredinol y bil.”

Yn ôl y cynlluniau gwreiddiol, byddai pleidiau gwleidyddol wedi gorfod sicrhau bod 50% neu fwy o’u hymgeiswyr ym mhob etholaeth yn fenywod.

Y bwriad oedd cadarnhau’r ddeddfwriaeth erbyn etholiad 2026, ond cafodd hyn ei ohirio ym mis Gorffennaf tan 2030.

Bellach, fe gafodd ei ohirio am gyfnod amhenodol.

“Rydyn ni’n edrych ar draws y Llywodraeth ar ardaloedd lle gallwn ni weithredu ein nodau polisi a deddfwriaeth mewn modd mwy ymarferol ac amserol,” meddai’r Prif Chwip Jane Hutt.

“Wedi ystyried, rydym wedi penderfynu cyflwyno cynnig i dynnu’r Bil rhag cael ei ystyried ymhellach gan y Senedd.”

Dywed y Llywodraeth y byddan nhw nawr yn “cyflymu” y broses o roi canllawiau newydd i’r pleidiau ar amrywiaeth a chynhwysiad.

Problemau cyfreithiol

Ers i’r Bil gael ei gyflwyno, mae ei sail gyfreithiol wedi cael ei chwestiynu.

Roedd y Llywydd Elin Jones wedi codi amheuon ynglŷn ag a oes gan y Senedd y pwerau i gyflwyno’r gyfraith newydd.

Roedd pwyllgor o aelodau o’r Senedd hefyd wedi rhybuddio y gallai’r cynlluniau wynebu her gyfreithiol, allai “beryglu” etholiad y Senedd yn 2026.

Ond yn ôl Siân Gwenllian, mae ffyrdd i sicrhau na fyddai problemau cyfreithiol yn codi.

“Mae yna lwybr arall symlach i sortio’r bil o ran y cynhwysedd, sef mynd â’r ddeddfwriaeth drwy broses y Cyngor Cyfrin [Privy Council] yn Nhŷ’r Cyffredin,” meddai.

Enw’r broses honno yw Gorchymyn Adran 109.

“Ac mae’r Cyngor Cyfrin wedyn yn gallu creu gorchymyn, sydd yn caniatáu i Senedd Cymru basio’r ddeddfwriaeth yma yn unig, ddim i ddatganoli’r holl faes cydraddoldeb,” meddai Siân Gwenllian wedyn.

Dywed ei bod hi wedi bod yn lobïo’r Llywodraeth i ddefnyddio’r mecanwaith hwnnw unwaith roedd Llywodraeth Lafur yn ei lle yn San Steffan.

“Mae’n ymddangos i fi fod Keir Starmer wedi dweud fod hyn ddim yn flaenoriaeth iddo fo, felly fydd o ddim yn mynd â fo i’r Cyngor Cyfrin,” meddai.

Does dim tystiolaeth i gefnogi mai hyn ddigwyddodd, ond dywed Siân Gwenllian mai dyna mae hi “yn ei gasglu” o’r sefyllfa.

“Neges anffodus” i fenywod sydd eisiau cyfrannu at wleidyddiaeth

Dywed Siân Gwenllian fod penderfyniad Eluned Morgan, a hithau’n Brif Weinidog benywaidd cyntaf Cymru, i wneud tro pedol ar y Bil yn anfon “neges anffodus”.

“Mae o’n arwydd nad ydi cydraddoldeb menywod yn bwysig i’r Prif Weinidog newydd,” meddai.

“Dw i’n gwybod tydi hwnna ddim yn wir, ond mae o’n arwydd o hynny.

“Ac mi fyddai gweithredu yn y modd yma wedi cadarnhau ei hymrwymiad hi tuag at gydraddoldeb i fenywod.”

Dywed y byddai cael hanner Aelodau’r Senedd o gwmpas y bwrdd yn fenywod yn “newid pwyslais” y Senedd “tuag at y math o broblemau sydd yn wynebu menywod o ddydd i ddydd”.

“Dw i’n meddwl y bydd yna fwy o sylw yn cael ei roi tuag at faterion gofal,” meddai.

“Achos merched o hyd sydd yn gwneud y gwaith gofalu.

“A dw i’n gwybod fod dynion, a dynion ifainc yn arbennig, yn cymryd llawer mwy o gyfrifoldeb am hynna, ond mewn lot o deuluoedd, y merched o hyd sydd yn gwneud y gwaith gofal.”

Ychwanega y bydd modd cyflwyno cwota statudol ar rywedd cyn etholiad 2030, a’i bod hi’n obeithiol y bydd Llafur, y Democratiaid Rhyddfrydol a’r Blaid Werdd yn ymuno â Phlaid Cymru wrth gynnig rhestr â 50% o ymgeiswyr yn fenywod yn 2026.