Mae hyd at 40% o bobol yng Nghymru, ar ôl eithrio’r rheiny sydd ddim yn gwybod, yn cefnogi diddymu’r Senedd ym Mae Caerdydd, yn ôl pol piniwn diweddaraf YouGov,
Mae’r lefelau hyn yn gyson gyda pholau piniwn gafodd eu cynnal yn ystod cyfnod Vaughan Gething yn Brif Weinidog, sy’n awgrymu nad yw enw drwg datganoli wedi dod i ben i nifer helaeth yng Nghymru, hyd yn oed ar ôl iddo ymddiswyddo.
Mae’r pol hefyd yn datgelu mai 28% o bobol fyddai’n cefnogi annibynniaeth lawn i Gymru, ag eithrio’r rheiny sydd ddim yn gwybod, o gymharu â 72% fyddai’n gwrthwynebu.
Fodd bynnag, mae’r pol piniwn yn dangos mai datganoli fel ag y mae ar y funud neu gyda mwy o bwerau yw’r opsiynau mwyaf poblogaidd ymysg pobol Cymru – yn hytrach nag annibyniaeth, hunanlywodraethu o fewn y Deyrnas Unedig, datganoli gyda llai o bwerau neu ddiddymu’r Senedd.
1,207 o bobol dros 16 oed gafodd eu holi yng Nghymru rhwng Medi 2 ac 8 gan YouGov.
Ceidwadwyr o blaid diddymu
Ym mis Awst cafodd Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr ym Mae Caerdydd, feirniadaeth chwyrn wedi iddo awgrymu ei fod yn awyddus cael clywed safbwyntiau’r cyhoedd am ddiddymu’r Senedd.
Mae sïon diweddar wedi awgrymu bod y Blaid Geidwadol yn ystyried cynnwys diddymu’r Senedd fel rhan o’u platfform etholiadol yn 2026.
Yn ôl y pol piniwn, cefnogwyr y Blaid Geidwadol fyddai fwyaf o blaid diddymu’r Senedd.
Roedd 66% o’r rheiny a bleidleisiodd dros y Blaid Geidwadol yn etholiad San Steffan eleni’n cefnogi dod â diwedd i ddatganoli.
Mae hyn yn cymharu â 61% o bleidleiswyr Reform UK, 23% o bleidleiswyr y Democratiaid Rhyddfrydol, 16% o bleidleiswyr y Blaid Lafur a 9% o bleidleiswyr Plaid Cymru fyddai’n cefnogi diddymu.
Mewn adroddiad ar ddiddymu datganoli dair blynedd yn ôl, dangosodd YouGov fod gorgyffyrddiad cryf rhwng y rheiny oedd yn cefnogi diddymu’r Senedd a’r rheiny oedd wedi pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd yn 2016.
Roedd eu dadansoddiad bryd hynny’n awgrymu mai prif gymhelliant y bobol hyn oedd yr egwyddor mai yn San Steffan y dylai’r penderfyniadau gwleidyddol pwysicaf gael eu gwneud.