Rhaid sylweddoli bod rheolwyr y Gwasanaeth Iechyd yn rhedeg sefydliadau “mawr a chymhleth”, medd Cyfarwyddwr Cynorthwyol Cydffederasiwn Gwasanaeth Iechyd Cymru.
Mae Nesta Lloyd-Jones wedi gwneud y sylwadau wedi i Eluned Morgan, Prif Weinidog Cymru, ddweud wrth raglen Politics Wales ei bod hi am ddwyn Prif Weithredwyr y Gwasanaeth Iechyd Gwladol i gyfrif am restrau aros hir.
Dywedodd Eluned Morgan ei bod am sicrhau bod prif weithredwyr byrddau iechyd, “sy’n derbyn cyflog sylweddol”, yn fwy atebol am y gofal y mae byrddau iechyd Cymru yn ei ddarparu.
“Rhaid sylweddoli bod prif weithredwyr y byrddau iechyd, a chorfforaethau iechyd eraill yng Nghymru, yn rhedeg sefydliadau mawr a chymhleth,” meddai Nesta Lloyd-Jones, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Cydffederasiwn Gwasanaeth Iechyd Cymru, sy’n cynrychioli saith bwrdd iechyd y wlad.
“O fewn y sefydliadau yna, mae yna filoedd o weithwyr sydd yn gweithio’n galetach nag erioed i gyflawni mwy o ofal i’w cleifion.
“Dw i’n credu mai’r peth mwyaf allweddol yw bod y Prif Weithredwyr yma yn angerddol am yr hyn maen nhw’n ei wneud, ac sicrhau eu bod nhw’n gallu darparu gofal a thriniaeth o ansawdd da.”
‘Un strategaeth gwasanaeth cyhoeddus i Gymru
Mewn dataniad i’r Senedd ddoe (dydd Mawrth, Medi 17), dywedodd Eluned Morgan bod ‘iechyd da’ yn un o bedwar blaenoriaeth iddi fel Prif Weinidog.
Wrth siarad â golwg360 yn y dyddiau ar ôl iddi gael ei henwi’n Brif Weinidog, dywedodd bod yna hefyd bwyslais ar y cyhoedd i ddefnyddio gwasanaethau eraill cyn mynd at adrannau argyfwng.
“Mae yna lot o bethau gyda ni i geisio atal pobol rhag mynd i’r ysbytai,” meddai Eluned Morgan yn siarad am wasanaeth ffôn 111, a cymorth mewn fferyllfeydd.
“Mae’n bwysig iddyn nhw ddefnyddio’r rheiny yn hytrach na wastad mynd i’r ysbytai…
“Mae’n rhaid i ni gael y cyhoedd i helpu ni efo hwn.
“Mae gennym gyfrifoldeb i edrych ar ôl ein hunain.
“Felly, dw i yn credu bod rhaid i ni fynd ar y siwrne yma gyda’n gilydd.
“Os dydyn ni ddim yn gwneud hyn, bydd y Gwasanaeth Iechyd yn dod yn anghynaladwy – bydd y pwysau yn ormod.”
Wrth ymateb i hyn, dywed Nesta Lloyd-Jones ei bod hi’n hanfodol cael “trafodaeth genedlaethol” ynglŷn â’r hyn oedd Eluned Morgan yn ei ddweud.
“Rydym ni fel y ffederasiwn eisiau sgwrs drawslywodraethol sy’n cyfuno pob adran o lywodraeth,” meddai.
“Dydy iechyd, ac iechyd pobol, ddim yn gyfrifoldeb yn unig i’r Gwasanaeth Iechyd.
“Mae e’n fater o weithio ar draws y sectorau, fel addysg, i helpu a chefnogi pobol i gynnal eu hiechyd a’u lles nhw.
Ychwanega ei fod yn “hanfodol” cael un strategaeth gwasanaeth cyhoeddus i Gymru er mwyn “helpu pobol o fewn ein cymunedau.”