Roedd hi’n ddiwrnod pwysig iawn yn hanes gwleidyddiaeth Cymru ddoe (dydd Mawrth, Medi 17) wrth i’r fenyw gyntaf i fod yn Brif Weinidog gymryd ei sedd ar gyfer ei sesiwn llawn gyntaf yn y Senedd.
Diddorol oedd gweld y wynebau cyfarwydd, megis Vaughan Gething a Mick Antoniw, yn eistedd ar y meinciau cefn, ddim ymhell oddi wrth Hannah Blythyn.
Hannah Blythyn, wrth gwrs, yw Cadeirydd y Pwyllgor newydd ar Safonau yn y Senedd. Arhoswn i weld y tân gwyllt yn fan yna dros y misoedd nesaf.
Ond cwestiwn ynglŷn ag un o’r wynebau cyfarwydd sydd wedi dychwelyd i’r fainc flaen, Mark Drakeford, wnaeth wthio Eluned Morgan i bwysleisio mai hi “yw capten y llong nawr”.
Geiriau cryf, mewn perfformiad cryf, yn ei sesiwn Cwestiynau i’r Prif Weinidog cyntaf.
Fe wnaeth Eluned Morgan fanylu ar ei blaenoriaethu ddoe hefyd, a’r pedwar ‘maes allweddol’ gafodd eu crybwyll oedd iechyd da, swyddi gwyrdd a thwf, rhoi cyfle i bob teulu, a chysylltu cymunedau.
Gallwch ddarllen am y blaenoriaethau hyn yma.
“Rydyn ni wedi gwrando, rydyn ni wedi dysgu ac rydyn ni’n mynd i gyflawni.” Dyna oedd geiriau Eluned Morgan.
A “chyflawni” oedd y neges glir yn y Senedd ddoe hefyd.
Dywedodd y Prif Weinidog mai ei phrif amcan oedd “cyflawni” ar yr hyn sydd yn cael ei addo gan Lywodraeth Cymru, ac i wneud hynny mewn ffordd sydd yn “dryloyw” ac wrth fod yn “atebol” i bobol Cymru.
Mae ffrae wedi datblygu rhwng y Prif Weinidog a phenaethiaid Gwasanaeth Iechyd Cymru dros atebolrwydd, ar ôl iddi ddweud ei bod am eu dwyn i gyfrif dros restrau aros hir.
Dywedodd Eluned Morgan wrth y BBC ei bod am sicrhau bod prif weithredwyr byrddau iechyd, “sy’n derbyn cyflog sylweddol”, yn fwy atebol am y gofal y mae byrddau iechyd Cymru yn ei ddarparu.
Eluned Morgan oedd Gweinidog Iechyd Cymru rhwng 2021 a 2024, ac mae nifer yn y sector iechyd wedi’i beirniadu gan ddweud ei bod hi’n “pasio’r bai” yn ei flaen.
Yn y Senedd ddoe, ar ôl chwe wythnos o wrando ar y cyhoedd, roedd nifer yn disgwyl mwy o gig ar yr asgwrn ar flaenoriaethau’r Prif Weinidog.
Disgrifiodd Rhun ap Iorwerth y datganiad fel un “tenau iawn”, yn enwedig wrth ystyried y cyn lleied o dargedau sydd ynddo.
Ychwanegodd Andrew RT Davies mai hwn yw’r “datganiad mwyaf ysgafn” mae o erioed wedi gweld Prif Weinidog Cymru yn ei gyhoeddi ar ddechrau tymor.
Does yna ddim amheuaeth bod Eluned Morgan wedi bod yn awyddus iawn i ddangos pwy sydd wrth y llyw ddoe.
Ond yn y pendraw, bydd yr etholwyr yn cael dangos eu barn yn ystod etholiad y Senedd yn 2026.
Eu pleidlais fydd yn cael dangos a yw’r blaenoriaethau sydd wedi cael eu cyflwyno yn ddigon uchelgeisiol i Gymru ac i ba raddau y bydd y Llywodraeth wedi llwyddo i’w cyflawni.
A dyna fydd yr her i’r Prif Weinidog dros yr ugain mis nesaf.