Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cymeradwyo cynlluniau i gael gwared ar drafnidiaeth ysgol am ddim i rai disgyblion sy’n cael addysg Saesneg.

Ni fydd plant meithrin sy’n derbyn addysg Saesneg a myfyrwyr ôl-16 oed mewn ysgolion uwchradd cyfrwng Saesneg yn cael trafnidiaeth ysgol am ddim o fis Medi 2025.

Fodd bynnag, bydd disgyblion mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg ac addysg sy’n seiliedig ar ffydd benodol yn parhau i gael trafnidiaeth am ddim.

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi beirniadu penderfyniad y cyngor Llafur gan ddweud y dylai pob disgybl gael eu trin yn deg waeth pa iaith maen nhw’n ei siarad neu eu ffydd.

Ond yn ôl swyddogion Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr, bydd y newid yn hyrwyddo addysg cyfrwng Cymraeg ac maen nhw wedi gwneud asesiad effaith cydraddoldeb.

Cyfyngiadau ar eu cyllideb sy’n eu gorfodi i wneud y cam, medd y cyngor, ac yn ôl y Gwasanaeth Gohebu Democratiaeth Leol, gallai’r awdurdod lleol arbed £1m y flwyddyn drwy’r newid.

‘Gwahaniaethol’

Mae’r polisi hefyd yn golygu na fydd trafnidiaeth yn cael ei ddarparu i blant sydd gan “lwybr cerdded diogel ar gael ac wedi’i adnabod i’r ysgol”. Bydd yn berthnasol i blant cynradd sy’n byw o fewn dwy filltir i’r ysgol, a thair milltir i ddisgyblion uwchradd.

Cafodd y newidiadau eu cymeradwyo mewn cyfarfod wedi i ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater ddod i ben fis Gorffennaf.

Dywed Natasha Asghar, llefarydd trafnidiaeth y Ceidwadwyr Cymreig, ei bod hi wedi’i syfrdanu bod y cyngor wedi gwneud penderfyniad “mor ddadleuol”.

“Mae cael cyngor yn parhau i ddarparu gwasanaethau trafnidiaeth i grŵp dethol o ddisgyblion yn wahaniaethol.

“Dylai pob disgybl gael eu trin yn gyfartal waeth beth yw eu hiaith neu eu ffydd.

“Rhaid i Lywodraeth Cymru ymyrryd er mwyn sicrhau bod pob disgybl yn cael mynediad cyfartal at drafnidiaeth i’r ysgol.”

‘Pryder am y gynsail’

Ychwanega Tom Giffard, llefarydd addysg y Ceidwadwyr Cymreig, bod y cyngor wedi gosod “cynsail sy’n peri pryder”.

“All y cyngor ddim gwahaniaethu yn erbyn pobol ar sail eu hiaith neu eu ffydd,” meddai.

“Mae achosion o blant yn methu’r ysgol yn cynyddu’n sylweddol ac ni fydd y mesur hwn yn helpu i annog disgyblion i fynd i’r ysgol.”

Mae Tom Giffard wedi cyflwyno cais i ofyn cwestiwn amserol ar y mater yn y Senedd heddiw (Medi 18).

‘Dod i benderfyniad yn anfodlon’

Wrth siarad yn ystod cyfarfod y cyngor, dywedodd y Cynghorydd Martyn Jones, sy’n aelod cabinet dros addysg a gwasanaethau ieuenctid, bod y penderfyniadau yn y polisi wedi cael eu gwneud “yn anfodlon”, meddai’r Gwasanaeth Gohebu Democratiaeth Lleol.

Ychwanegodd y byddan nhw’n parhau i edrych ar unrhyw oblygiadau anfwriadol allai’r polisi ei greu.

“Mae hon yn broses anfodlon o wneud penderfyniadau ar ein rhan,” meddai.

“Mae’n cael ei yrru’n llwyr gan gyfyngiadau sydd wedi’u gosod ar gyllideb Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.”