Mae cymuned Llanfrothen yn anelu i brynu les eu tafarn leol er mwyn ei rhedeg fel menter gymunedol.
Er mwyn sicrhau’r les, mae gan y fenter wythnos i sicrhau cefnogaeth ariannol gwerth £200,000 gan unigolion.
Yn ôl Dafydd Emlyn, un o aelodau pwyllgor Menter y Ring, mae hi’n “edrych yn ofnadwy o galonogol” y byddan nhw’n cyrraedd y targed.
‘Pethau’n symud’
Cafodd cyfarfod cymunedol brys ei gynnal yn Llanfrothen nos Lun (Medi 16), a chafwyd cefnogaeth tuag at y syniad o ffurfio Menter y Ring bryd hynny.
Bydd cyfarfod ffurfiol cyntaf y pwyllgor heno (nos Fercher, Medi 18), ac os byddan nhw’n llwyddo i sicrhau digon o gefnogaeth ariannol ar ffurf cytundeb benthyciad ffurfiol byddan nhw’n cael mwy o amser i ddenu cyfranddaliadau.
“Ers ychydig o wythnosau, mae yna si wedi bod o gwmpas beth sy’n mynd ymlaen ac ychydig bach o ansicrwydd… pobol yn dweud eu bod nhw eisiau prynu a hyn a llall,” eglura Dafydd Emlyn wrth golwg360.
“Fe ddaru Robinsons droi rownd yn sydyn iawn efo llai na phythefnos o rybudd yn dweud eu bod nhw’n cau’r dafarn a dyna fo.
“O fewn dyddiau, ddaru ni benderfynu cael cyfarfod yn y pentref a heno mae’r pwyllgor cyntaf rydyn ni’n ei ffurfio’n swyddogol.
“Mae yna lot o gynigion wedi dod mewn yn barod i helpu.
“Gaethon ni lot o help gan Caryl Lewis, sydd efo Menter Ty’n Llan yn Llandwrog, mae hi wedi rhoi ni ar ben ffordd. Mae pethau’n symud.”
Ychwanega Dafydd Emlyn bod gan denantiaid preifat ddiddordeb hefyd, a’i fod yn credu bod dau gynnig arall wedi’u gwneud, ond bod un wedi’i wrthod.
‘Edrych yn galonogol’
Bu’r Ring ar gau ers blwyddyn tan fis Medi’r llynedd, yn dilyn dadl ynglŷn â’r les.
Caeodd y Ring yn 2022 yn sgil yr argyfwng costau ynni, ac fe wnaeth Robinsons fethu dod o hyd i denant newydd.
Roedd disgwyl i Fragdy Robinsons, sydd â’u pencadlys yn Stockport ger Manceinion ac sydd â’r les ar gyfer tua 260 o dafarndai, fod yn berchen ar y les am 28 mlynedd arall.
Yn sgil cyfaddawd gan Robinsons yn 2023, bu Emlyn Roberts yn denant am tua chwe mis ac fe wnaeth y bragdy gytuno i wario tua £160,000 ar yr adeilad, oedd wedi cael ei esgeuluso, yn ôl trigolion lleol.
“Ar ôl y chwe mis, gaethon ni rywun arall mewn ac maen nhw wedi cymryd y fantol a rhedeg efo,” meddai Dafydd Emlyn.
“Roedd y lle’n fflio mynd i fod yn onest, wedyn mae o wedi dod i hyn rŵan.
“Mae gennym ni gyfarfod heno, ac mae hi’n edrych yn ofnadwy o galonogol y byddan ni yn hitio’r targed.
“Y cam nesaf ydy sicrhau ein bod ni’n cael y benthyciad yn ei le drwy’r addewidion a mynd â fo i share offer.
“Unwaith mae’r cynnig yn mynd mewn, byddan ni’n cael mwy o amser wedyn i godi’r arian drwy’r cyfranddaliadau.”
Os fyddan nhw’n codi digon o arian drwy’r cyfranddaliadau, ni fyddan nhw angen y benthyciad mwyach i sicrhau’r les.