Mae ymgyrchwyr yng Ngwynedd yn galw ar fragdy yn Lloegr i ryddhau les tafarn bentref sydd wedi bod ar gau ers y llynedd.
Caeodd y Brondanw Arms, neu’r Ring fel y mae hi’n cael ei hadnabod yn lleol yn Llanfrothen, fis Hydref y llynedd yn sgil yr argyfwng costau ynni.
Bragdy Robinsons, sydd â’u pencadlys yn Stockport ger Manceinion ac sydd â’r les ar gyfer tua 260 o dafarndai, sy’n berchen ar y brydles am 29 mlynedd arall, a hyd yn hyn maen nhw wedi methu â dod o hyd i denantiaid newydd.
Yn ôl ymgyrchwyr sy’n awyddus i weld y dafarn yn cael ei rhedeg fel un gymunedol, mae’r diffyg buddsoddiad gan y bragdy yn y dafarn dros y ddau ddegawd diwethaf yn golygu nad yw darpar denantiaid yn awyddus i’w chymryd.
Mae’r Ring yn rhan amlwg o bentref Llanfrothen ers yr ail ganrif ar bymtheg, ac mae Robinsons yn berchen ar y brydles ers 1986.
Mae Robinsons eisiau bron i £14,000 o fuddsoddiad gan y tenantiaid newydd, ac wrth siarad â rhaglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru fore heddiw (dydd Mercher, Mai 3) dywedodd cyn-reolwr y dafarn nad oedd buddsoddiad wedi bod yn y Ring ers 2000.
Dros y penwythnos, bu’r ymgyrchwyr yn gosod posteri ar y dafarn yn mynnu bod y cwmni’n rhyddhau’r les, ac mae dros 600 o bobol wedi llofnodi deiseb yn galw am hynny.
‘Niwed mawr’
Mae Siân Cwper yn un o aelodau’r ymgyrch ‘Dyfodol y Ring’, ac mae hi’n dweud bod cau’r dafarn yn gwneud “niwed mawr” i’r gymuned.
“Rydyn ni angen tafarn, mae’n mynd fel bod neb yn adnabod ei gilydd. Efo’r holl Covid a’r cloeon, dydyn ni ddim wedi gweld ein gilydd llawer beth bynnag ac rydyn ni’n colli nabod ar ein gilydd,” meddai wrth golwg360.
“A phobol newydd, os oes yna bobol yn dod i fyw yma, dydyn nhw ddim yn adnabod neb.
“Mae’n gwneud niwed mawr i’r gymuned.
“Maen nhw eisiau £14,000 o fuddsoddiad gan y person sy’n cymryd drosodd, fysan nhw’n gorfod talu lot am gael y lle’n lân ac yn wag.
“Dydyn nhw ddim o ddifrif eisiau rhywun mewn, mae o jyst yn esgus i gadw pobol yn ddistaw achos fysa neb yn cymryd o ar y telerau yna.
“Mae’r offer wedi bod yno ers degawdau a ddim werth llawer erbyn hyn, mae’n debyg.
“Dydy o ddim yn bosib coelio eu bod nhw go iawn eisiau rhywun.
“Fysa yna neb yn ei iawn bwyll yn derbyn sefyllfa fel yna.”
‘Dal i frwydro’
Y gobaith yw troi’r dafarn yn un gymunedol, yn ôl Siân Cwper.
“Fysa ni’n gorfod casglu lot o bobol i ddod at ei gilydd i’w brynu fo. Dw i’n meddwl y bysa hynna’n bosib,” meddai.
“Mae o’n lle reit enwog, a lot o bobol yn gwybod amdano fo.
“Mae’r tafarndai eraill yma sydd wedi cael eu cymryd drosodd yn gymunedol wedi llwyddo i godi pres a’i wneud o, ac yn gwneud reit dda.
“Dyna fyswn i go iawn yn licio, ei redeg o’n gymunedol.
“Ond os fysa hynny ddim yn bosib, fysa Stad Brondanw, sydd biau’r adeilad, yn gallu prynu’r les yn ôl a’i osod o i ni neu rywbeth. Fysa ni’n cydweithredu efo nhw i redeg y lle.
“Maen nhw’n hynod gefnogol ac eisiau i’r lle agor.
“Rydyn ni’n mynd i ddal ymlaen i frwydro.”
Wrth siarad â BBC Radio Cymru, dywedodd Emlyn Roberts, fu’n rhedeg y dafarn am ugain mlynedd ac sy’n byw yn Llanfrothen, mai’r buddsoddiad sydd ei angen ar yr adeilad yw’r broblem wrth drio denu tenant newydd.
“Mae hi wedi mynd i deimlo fel bod hi’n cau am byth, efo cyn lleied o fuddsoddiad mae’r bragdy wedi rhoi mewn yn y fo dros y cyfnod o ugain mlynedd,” meddai.
“Y buddsoddiad gan y bragdy ydy’r broblem, mae golwg ofnadwy ar y Ring wedi mynd rŵan ac i rywun sydd awydd cael golwg ar y lle maen nhw’n dychryn am eu bywydau ac yn gwybod faint mae o’n mynd i gostio, yr arian maen nhw eisiau i fynd mewn ac mae’r arian fysa nhw eu hunain yn gorfod buddsoddi yn y lle yn annheg.”
‘Dechrau newydd’
Mewn datganiad, dywed bragdy Robinsons eu bod nhw’n tristáu yn gweld y drysau dal ar gau, a bod y gaeaf hwn wedi bod yn un heriol i dafarndai “gyda chwyddiant prisiau bwyd a chostau ynni uwch nag erioed”.
“Roedden ni’n cydnabod yr angen am ddechrau newydd yn Brondanw ac fe wnaethon ni benderfynu, yn gyndyn, gau’r busnes tra ein bod ni’n dewis rheolwyr newydd,” meddai William Robinson, cyd-reolwr gyfarwyddwr y bragdy, mewn datganiad sydd wedi cael ei rannu gan yr ymgyrchwyr.
“Mae pobol wedi bod â diddordeb rhedeg y busnes, ond yn anffodus, oherwydd rhesymau personol, roedd rhaid i’r ymgeisydd oedden ni’n ei ffafrio dynnu’n ôl.
“Rydyn ni wrthi’n trio recriwtio a hefyd yn edrych ar opsiynau buddsoddi er mwyn dod â bywyd yn ôl i’r dafarn bentref yma sydd wrth galon ei chymuned.
“Rydyn ni’n parhau’n ymrwymedig i ddyfodol y Brondanw Arms o fewn ein stad ac yn gobeithio bod ein buddsoddiadau diweddar yng Ngogledd Cymru, gan gynnwys yn Nhafarn yr Arf yng Ngarndolbenmaen yn dangos ein hymrwymiad tuag at gefnogi a datblygu ein tafarndai.”