Mae protestwyr wedi trefnu tridiau o ddigwyddiadau yn Abertawe, wrth i’r ffigwr dadleuol Katie Hopkins ymweld â’r ddinas.

Mae hi wedi cael gwahoddiad i siarad yn Cinema & Co, lleoliad yng nghanol y ddinas sydd hefyd wedi cynnal digwyddiadau gyda’r gwrth-frechlynnwr Matt Le Tissier a’r damcaniaethwr cynllwyniau David Icke.

Roedd Anna Redfern, perchennog y lleoliad, wedi cael ei hun mewn dŵr poeth yn ystod cyfnod Covid-19 am dorri’r cyfyngiadau.

Fis Rhagfyr 2021, cafodd hi ddedfryd ohiriedig o garchar ar ôl cyfaddef chwe chyhuddiad yn Llys Ynadon Abertawe.

Cafwyd hi’n euog o ddirmyg llys am ailagor ei lleoliad ar ôl i’r awdurdodau ei gau, ond cafodd yr euogfarn ei dileu fis Gorffennaf y llynedd.

Fel bar sydd â sinema, dylai’r lleoliad fod wedi cadw at gyfyngiadau Llywodraeth Cymru ar gyfer sinemâu ond roedd hi’n dadlau bod hynny’n mynd yn groes i hawliau dynol perchnogion lleoliadau.

Katie Hopkins

Yn ôl trefnwyr y digwyddiad, Katie Hopkins’ Hate Not Welcome in Swansea, maen nhw “wedi’u ffieiddio” ei bod hi wedi cael gwahoddiad i siarad yn y ddinas.

Cafodd hi ei gwahardd am oes rhag mynd ar Twitter yn sgil ei “hymddygiad o gamdrin a chasineb”.

Collodd hi ei swydd gyda gorsaf radio LBC yn Llundain yn 2017, ar ôl dweud ar Twitter bod angen “ateb terfynol” i sefyllfa ffoaduriaid.

Flwyddyn yn ddiweddarach, ymunodd hi â gwefan asgell dde eithafol yng Nghanada, ac mae hi’n adnabyddus am ei cholofnau i’r Daily Mail sy’n mynegi safbwyntiau hiliol, rhagfarnllyd ac Islamoffobaidd.

Ymunodd hi â phlaid UKIP yn 2021.

Mae hi hefyd wedi sarhau nifer o grwpiau lleiafrifol eraill, gan gynnwys Sipsiwn, Roma a Theithwyr, pobol ag anableddau a phobol o gefndiroedd difreintiedig.

“Does dim croeso i safbwyntiau llawn casineb a rhagfarn Hopkins yng Nghymru,” meddai neges ar dudalen Facebook trefnwyr y brotest.

“Mae’n gywilyddus ei bod hi wedi cymharu ffoaduriaid yn ffoi am eu bywydau â ‘chwilod duon’ a ‘bodau dynol gwyllt’, gan ddweud eu bod nhw’n “lledu fel y norofirws”.

“Dywedodd hefyd y byddai hi’n defnyddio llongau â dryllau i atal mudwyr, a gwnaeth hi enllibio teulu Mwslimaidd hefyd.

“Pan brotestiodd pobol wrth-hiliol yn Llanelli ynghylch ymddangosiad Hopkins yn eu tref, cafodd y digwyddiad ei ganslo.

“Mae Stand Up to Racism yn gwrthwynebu pob math o hiliaeth a rhagfarn, ac yn parhau i ddweud yn uchel ac yn glir fod croeso i ffoaduriaid yma.”

Mae pobol sydd am fynychu’r brotest yn cael eu hannog i ddod â baner, chwiban a cerddoriaeth gyda nhw.

Wokefest

Daw’r brotest ar ddiwrnod cyntaf Wokefest, gŵyl dridiau sy’n gwrthwynebu ymweliad Katie Hopkins ag Abertawe.

Bydd mwy na 30 o artistiaid amrywiol yn perfformio, gan gynnwys cerddorion, DJs, beirdd, digrifwyr ac artistiaid syrcas.

Bydd y digwyddiad mewn tri lleoliad gwahanol yn y ddinas, sef Elysium, Hippos a JamJar.

Mae dau leoliad arall, The Gamers’ Emporium a Tangled Parrot, ar agor fel lleoliadau di-alcohol ar gyfer yr ŵyl.

Mae’r ŵyl yn rhad ac am ddim, gyda gwahoddiad i fynychwyr gyfrannu tuag at elusennau lleiafrifoedd ethnig EYST ac elusen ceiswyr lloches SASS.

‘Safbwyntiau amrywiol’

Fis diwethaf, roedd neges ar dudalen Facebook Cinema & Co yn dweud eu bod nhw’n croesawu sylwadau gan bobol ag amryw o safbwyntiau.

“Rydyn ni’n hapus iawn i’n cwsmeriaid rannu eu safbwyntiau ar ein digwyddiadau a’n dangosiadau,” meddai’r neges.

“Fel y gwyddoch chi, rydyn ni’n lleoliad sy’n hybu rhyddid barn a rhyddid lleisiau.

“Gyda phob hawl, daw cyfrifoldebau a gofynnwn yn barchus i chi gofio hyn gyda’ch sylwadau.

“Bydd unrhyw sylwadau nad ydyn nhw’n cyfrannu at drafodaeth bositif neu geisiadau o ran ein digwyddiadau’n cael eu dileu a defnyddwyr yn cael eu blocio.

“Mae’r dudalen hon ar gyfer busnesau bach ac nid fel lle ar gyfer trafodaeth ranedig, waeth pa mor ddadleuol yw rhai o’n digwyddiadau.

“Rydyn ni’n rhedeg ystod eang o ddigwyddiadau i’r gymuned gyfan, ac yn croesawu cwsmeriaid o bob rhan o fywyd.”

Darllenwch ragor:

Mae modd dilyn hynt a helynt Cinema & Co yn ystod cyfnod Covid-19 drwy ymweld â’r dolenni yn rhai o straeon golwg360:

Cinema & Co Abertawe

Enwebu perchennog sinema yn Abertawe am ‘Brydeiniwr yr Wythnos’ GB News

Mae Anna Redfern wedi bod dan y lach am wrthod gweithredu’r pasys Covid ar gyfer ei chwsmeriaid yn Cinema & Co