Mae Aelod Plaid Cymru o’r Senedd yn dweud ei bod hi’n “hollol annerbyniol” fod aelod o staff Anabledd Cymru wedi gorfod cysgu’r nos ar soffa yn ystafell fwyta’r Travelodge.

Daw hyn ar ôl i’r corff sy’n brwydro dros hawliau, cydraddoldeb ac annibyniaeth pobol ag anableddau yng Nghymru bostio neges a llun ar Twitter.

“Dyma lun o’n cydweithiwr y bu’n rhaid iddi gysgu ar soffa yn eich ystafell fwyta gyhoeddus yr wythnos ddiwethaf am fod pob ystafell hygyrch ‘allan o ddefnydd’,” meddai’r neges.

“Enghraifft ofnadwy o’r hyn sy’n digwydd pan fo darparwyr gwasanaethau’n methu ag adnabod gofynion pobol anabl.

“Mae angen i ddarparwyr gwasanaethau gael eu dwyn i gyfrif am y ffordd maen nhw’n trin pobol anabl.

“Edrychwch ar eich polisïau a sicrhewch fod pob aelod o staff yn derbyn Hyfforddiant Cydraddoldeb Anabledd.

“Mae ein cydweithiwr yn haeddu ymddiheuriad ffurfiol a chydnabyddiaeth am y straen a’r effaith achosodd hyn.”

Wrth ymateb, dywed Travelodge eu bod nhw wedi siarad â’r unigolyn.