Mae adroddiad gafodd ei gomisiynu gan Blaid Cymru yn dweud bod angen i’r blaid honno “ddadwenwyno diwylliant o aflonyddu, bwlio a gwreig-gasineb”,

Dywed yr adroddiad fod yna “ormod o achosion o ymddygiad drwg” gan wleidyddion y Blaid, ac mae’r arweinydd Adam Price wedi ymddiheuro.

Fe wnaeth yr adroddiad 82 o argymhellion, ac maen nhw i gyd wedi cael eu derbyn.

Cafodd yr ymchwiliad ei lansio fis Rhagfyr y llynedd yn dilyn cwynion am y diwylliant o fewn Plaid Cymru, ac fe gafodd ei arwain gan gyn-wleidydd y Blaid, Nerys Evans.

Dywed adroddiad Prosiect Pawb fod “diffyg gweithredu dros nifer o flynyddoedd”, a bod y diffyg gweithredu hwnnw “wedi gwneud sefyllfa ddrwg yn waeth fyth”.

Clywodd yr ymchwiliad dystiolaeth ar ffurf holiadur di-enw, ac fe ddaeth o hyd i achosion i aflonyddu rhywiol, bwlio a gwahaniaethu nad ydyn nhw’n “achosion unigol”, meddai’r adroddiad, sy’n dweud bod y rhan fwyaf o’r gwahaniaethu ar sail rhywedd.

Mae’r adroddiad yn galw ar Bwyllgor Gweithredol Cenedlaethol Plaid Cymru i weithredu ar sail yr argymhellion er mwyn sicrhau bod y Blaid “wirioneddol ac yn weladwy yn groesawgar i fenywod”.

Mae’r adroddiad hefyd yn beirniadu “diffyg arweinyddiaeth a llywodraethiant cilyddol ar draws y blaid”, a bod hynny wedi gwaethygu’r sefyllfa dros nifer o flynyddoedd.

Ymateb

Mae Adam Price a Marc Jones, cadeirydd Plaid Cymru, wedi ymateb mewn datganiad ar y cyd, gan gydnabod fod yna ddiwylliant wedi gallu bodoli o fewn y Blaid.

Maen nhw’n dweud nad yw’r Blaid wedi “herio” y fath ymddygiad, a bod eu prosesau a’u trefniadau llywodraethiant wedi bod yn “annigonol”.

“Mae unigolion wedi cael eu siomi o ganlyniad, yn enwedig menywod ond dynion hefyd,” meddai.

“Am hynny, ar ran arweinyddiaeth gilyddol Plaid Cymru, mae’n ddrwg iawn gennym.”