Mae ymgyrchydd o Gaerdydd wedi dechrau ymprydio tan ddiwrnod coroni’r Brenin Charles, er mwyn protestio yn erbyn yr arian sy’n cael ei wario ar y seremoni.

Bydd Gwenno Dafydd yn rhoi’r arian fydd hi’n ei arbed i Fanc Bwyd Abergwaun ac Wdig yn Sir Benfro.

Fe wnaeth yr ymgyrchydd gynnal ympryd debyg y llynedd yn erbyn seremoni Jiwbilî’r Frenhines Elizabeth II, gan roi’r arian tuag at fanc bwyd lleol bryd hynny hefyd.

Mae’r berfformwraig, actores a hyfforddwraig siarad cyhoeddus yn annog eraill i ymuno â’r ympryd, all fod mor syml â methu un pryd y diwrnod, a chyfrannu tuag at fanc bwyd o’u dewis.

“Dw i’n teimlo bod y teulu brenhinol yn ofnadwy o ddideimlad ynglŷn â’r sefyllfa lle mae gymaint o bobol yn trio cynnal dau ben llinyn ynghyd tra’u bod nhw’n gloddesta ac yn gwastraffu pres y wlad ar ddigwyddiad sydd ddim yn berthnasol i’r cyfnod lle rydyn ni’n byw,” meddai Gwenno Dafydd wrth golwg360.

Dydy cost swyddogol y coroni heb gael ei ddatgelu eto, ond mae disgwyl iddo gostio hyd at £100m.

“Dw i’n teimlo bod o’n anfoesol i wario ar ddigwyddiad lle, erbyn hyn, does gan y rhan fwyaf o bobol yng Nghymru ddim llawer o ddiddordeb ynddo fo.

“Y difaterwch ydy’r peth mwyaf trawiadol ynglŷn â hyn, yn sir Geredigion wnaeth yna ddim un stryd drio cael trwydded er mwyn cael parti i ddathlu’r digwyddiad.”

Mae sawl pôl piniwn diweddar wedi dangos bod y gefnogaeth tuag at y teulu brenhinol yn gostwng dros wledydd Prydain, gydag un gan y National Centre for Social Research yn dangos bod 45% o’r rhai gafodd eu holi yn dweud y dylid cael gwared ar y frenhiniaeth, nad yw’n bwysig o gwbl, neu nad yw’n bwysig iawn.

Roedd pôl piniwn YouGov gafodd ei gomisiynu gan WalesOnline ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi eleni yn dangos bod y gefnogaeth yng Nghymru tuag at y frenhiniaeth wedi aros yn eithaf cyson, gyda 28% yn dweud y bydden nhw’n hoffi cael gwared ar y teulu brenhinol.

Mae’r gefnogaeth tuag at y frenhiniaeth ar ei hisaf ymysg pobol ifanc, a’r grŵp o bobol ifanc rhwng 16 a 24 oed oedd yr unig grŵp â mwy na’u hanner eisiau cael gwared ar y frenhiniaeth.

‘Anfoesol’

Teimlad Gweno Dafydd ydy ei bod hi’n “wirioneddol anfoesol” fod y teulu brenhinol yn gwario’r holl arian ar yr achlysur.

“Y ffaith bod y teulu brenhinol yn ceisio cael pobol i ymuno, maen nhw’n disgwyl i ni dyngu llw i’r frenhiniaeth… dw i’n gredwr cryf mewn cydraddoldeb ac ein bod ni i gyd cystal â’n gilydd.

“Yn anffodus, dydy’r gymdeithas ddim yn adlewyrchu fy moesau i ond dw i yn teimlo’i bod hi’n wirioneddol anfoesol eu bod nhw’n gloddesta ac yn gwastraffu’r holl bres yma pan mae’r dyn yn biliwnydd ei hun. Dydy o ddim wedi talu treth pan fuodd ei fam farw, fysa’r rhan fwyaf o bobol yn gorfod.

“Mae yna gymaint o ffyrdd mae’r teulu brenhinol wedi casglu a chynilo miloedd ar filoedd ar filoedd o bunnoedd yn y gorffennol, ac os ydyn nhw’n gorfod cael y digwyddiad yma – talu amdano fo allan o bocedi eu hun.

“Mae pobol yn dweud eu bod nhw’n gwasanaethu’r wlad – ym mha ffordd, fyddai fy nghwestiwn i? Ym mha ffordd maen nhw’n rhoi arweiniad?”

Mae Gwenno Dafydd yn annog eraill i ymuno, gan awgrymu y gallai pobol fethu un pryd y dydd, neu fynd heb beint neu baned a chacen, a chyfrannu’r arian gafodd ei arbed at fanc bwyd.

“Mae lot o bobol yn gorfod mynd heb fwyd er mwyn i’w plant nhw fwyta, dw i’n meddwl bod hi’n anfoesol bod y teulu brenhinol na llywodraeth [San Steffan] wedi rhoi hynny mewn i ystyriaeth pan maen nhw’n gwario gymaint o bres ar y digwyddiad ei hun.

“I fi, byddai’n well iddyn nhw roi’r pres i’r gwasanaeth iechyd, sydd ar ei liniau ar hyn o bryd.”

Cynnal protest ar-lein tra bydd y Brenin Charles III yn ymweld â Chaerdydd

Huw Bebb

“Mae o’n warthus y ffordd mae pobol yn trio gwthio tywysog arnom ni heb i ni gael unrhyw hawl ddemocrataidd”

Ymgyrchydd am ymprydio yn ystod y Jiwbilî a rhoi’r arian i fanc bwyd lleol

Cadi Dafydd

“Roeddwn i’n teimlo bod rhaid i ni wneud rhywbeth positif yn hytrach nag eistedd yma’n ddiymadferth yn cwyno,” meddai Gwenno Dafydd