Mae angen gwelliannau ar ward iechyd meddwl arbenigol yn Ystradgynlais, medd adroddiad newydd.

Daeth Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru i’r canlyniad bod staff Ward Tawe yn “ymrwymedig” i ddarparu gofal safon uchel i gleifion, ond fod angen gwneud gwelliannau, gan gynnwys wrth ddiweddaru cynlluniau gofal cleifion.

Doedd cynlluniau gofal cleifion ddim yn cael eu hasesu na’u monitro’n gyson, a doedd yr asesiadau risg ddim yn gyfredol nac yn ddigon cynhwysfawr i alluogi staff na fydden nhw’n adnabod claf i fod yn hollol ymwybodol o’r risgiau, meddai’r adroddiad.

Yn ôl yr Arolygiaeth, byddai hynny’n peri pryder penodol pe bai aelod staff asiantaeth yn gweithio ar y ward yn Ysbyty Cymunedol Ystradgynlais am y tro cyntaf.

Byddai’n anodd iawn i’r aelod hwnnw o staff ddeall ymddygiad y cleifion a’r camau priodol i’w cymryd, meddai.

‘Staff ymrwymedig’

Fe wnaeth yr Arolygiaeth Gofal Iechyd gwblhau’r arolygiad dirybudd yn ystod tridiau fis Ionawr eleni, a nododd fod y staff yn “ymrwymedig” a bod ganddyn nhw “ddealltwriaeth dda o anghenion y cleifion”.

Roedd ymwelwyr hefyd yn canmol y gofal oedd yn cael ei ddarparu ar y ward, meddai.

Fodd bynnag, roedd cydymffurfiaeth isel o ran hyfforddiant gorfodol, goruchwylio staff ac arfarniadau, ynghyd â diffyg cyfarfodydd mewnol rheolaidd.

“Mae’n gadarnhaol gweld ymroddiad ac ymrwymiad y staff i ddarparu safonau gofal mor uchel yn Ward Tawe,” meddai Alun Jones, Prif Weithredwr yr Arolygiaeth.

“Nododd ein harolygiad feysydd i’w gwella y bydd angen ymdrin â nhw er mwyn gwella ansawdd y gofal i’r cleifion.

“Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys wedi llunio cynllun sy’n nodi camau gwella o ganlyniad i’n gwaith arolygu a sicrwydd.

“Bydd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn monitro cynnydd y bwrdd iechyd yn erbyn y cynllun hwn.”