Mae Laura Borràs, Llefarydd Senedd Catalwnia, am golli ei swydd a’i sedd fel aelod seneddol, yn dilyn penderfyniad y bwrdd etholiadol neithiwr (nos Fercher, Mai 3).
Daw hyn ar ôl i Borràs, sydd hefyd yn llywydd plaid Junts per Catalunya, gael ei dedfrydu i bedair blynedd a hanner o garchar am helpu ffrind i ennill cytundebau ariannol cyn dod yn llefarydd.
Mae Uchel Lys Catalwnia hefyd wedi ei gwahardd rhag bod mewn swydd gyhoeddus am 13 o flynyddoedd ar ôl i lys ei chael yn euog o ffugio dogfennau swyddogol ac o dorri dyletswydd swyddogol drwy hollti cytundebau er mwyn osgoi prosesau tendro cyhoeddus fel bod ei ffrind Isaías Herrero yn cael gwaith.
Yn ystod yr achos llys, fe wnaeth barnwyr ofyn i Lywodraeth Sbaen roi pardwn rhannol iddi er mwyn torri dwy flynedd a hanner oddi ar ei dedfryd fel na fyddai’n rhaid iddi fynd i’r carchar.
Dydy hi ddim dan glo eto, wrth iddi aros am ganlyniad apêl Mawrth 30 gerbron y Goruchaf Lys, ac fe allai’r broses honno gymryd rhai misoedd.
Rôl y senedd
Daw penderfyniad y bwrdd etholiadol i symud Laura Borràs o’i swydd bythefnos ar ôl iddyn nhw roi deng niwrnod gwaith i senedd Catalwnia benderfynu ar ei dyfodol, ar ôl iddi gael ei diarddel o’i swydd dros dro.
Penderfynodd y siambr na fyddai’n cael ei symud o’i swydd wedi’r ddedfryd, ond mae nifer o wleidyddion eraill wedi colli eu swyddi ar ôl sefyllfaoedd tebyg, gan gynnwys Quim Torra o blaid Junts a Pau Juvillà o blaid CUP.
Rhwng Mawrth 2013 a Chwefror 2017, cafodd 18 o gytundebau bach eu dosbarthu ar gyfer gwaith ar eu gwefan, a chost y gwaith hwnnw oedd 330,000 Ewro.
Fe wnaeth Laura Borràs ymyrryd gan gynnig a dyfarnu cytundeb, rhoi sêl bendith i wariant, gweithredu ar y gwaith, rhoi anfoneb ac awdurdodi’r taliad, meddai barnwyr yr Uchel Lys.
Aeth chwech o’r cytundebau hyn i Isaías Herrero, ac roedden nhw’n werth 112,500 Ewro, ac aeth rhagor i grwpiau roedd e’n aelod ohonyn nhw.
Cafodd ei gyflwyno i staff yn fuan wedyn fel pennaeth y wefan, ac fe drafododd y ddau y cytundebau dros e-bost a sut i fynd o gwmpas y sefyllfa.
Ar y pryd, roedd yn rhaid dechrau proses dendro ar gyfer cytundebau dros 18,000 Ewro ond doedd hyn ddim wedi digwydd, a chafodd y cytundebau eu hollti fel eu bod nhw o dan y trothwy.