Mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru wedi galw unwaith eto ar y Llywodraeth Lafur i wneud mwy i inswleiddio cartrefi.
Daeth yr alwad yn ystod dadl yn y Senedd ddoe (dydd Mercher, Mai 3), yn dilyn y newyddion bod cynlluniau ar gyfer Rhaglen Cartrefi Clyd newydd ar droed.
Yn ystod y cyfarfod llawn, dywedodd Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, nad yw Llafur yn gweithredu’n ddigon cyflym i helpu i ddatgarboneiddio’r sector tai nac i fynd i’r afael â thlodi tanwydd.
Dangosodd dadansoddiad blaenorol gan y Democratiaid Rhyddfrydol fod cynllun insiwleiddio cartrefi presennol Llafur mor araf fel y gallai gymryd rhwng 111 a 135 o flynyddoedd i inswleiddio pob cartref tanwydd-dlawd yng Nghymru.
Ar hyn o bryd, mae gan Gymru rai o stoc tai hynaf gorllewin Ewrop a’r lleiaf ynni-effeithlon.
Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn galw am gynllun inswleiddio brys, gan honni nid yn unig y byddai’n helpu mynd i’r afael â newid hinsawdd ac yn arwain at arbedion cyfartalog o £600 y flwyddyn i bob aelwyd, ond hefyd yn creu 10,000 o swyddi ac yn lleihau gwariant y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ar salwch sy’n gysylltiedig ag oerfel fel niwmonia.
‘All pobol Cymru ddim fforddio aros i Lafur oedi ar y mater hwn’
“Bydd yr hydref a’r gaeaf yn dychwelyd yn gynt nag y gwyddom, ac mae’n hanfodol nad oes unrhyw oedi wrth gyflwyno cynllun newydd,” meddai Jane Dodds.
“Roedd yn peri hyd yn oed yn fwy o bryder fod y Gweinidog wedi dweud fod y cynllun am ‘wneud dim gwahaniaeth o gwbl i’r aelwyd sydd ar hyn o bryd mewn tlodi tanwydd’.
“Mae Llafur wedi methu dro ar ôl tro i gymryd inswleiddio cartrefi yng Nghymru o ddifrif.
“Mae inswleiddio ein cartrefi nid yn unig yn hanfodol ar gyfer amddiffyn teuluoedd rhag costau ynni cynyddol a mynd i’r afael â newid hinsawdd, ond hefyd ar gyfer creu swyddi newydd a lleihau faint o arian rydym yn ei wario ar salwch sy’n gysylltiedig ag oerfel yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
“All pobol Cymru ddim fforddio aros i Lafur oedi ar y mater hwn ac i ddilyn y Ceidwadwyr yn San Steffan yn y pen draw, mae angen gweithredu nawr cyn ei bod hi’n rhy hwyr.”
£35m ar gyfer y Rhaglen Cartrefi Clyd newydd
“Mae ein Rhaglen Cartrefi Clyd ddiweddaraf wedi helpu degau o filoedd o aelwydydd yng Nghymru trwy leihau eu biliau a’u defnydd o ynni,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.
“Bydd y Rhaglen Cartrefi Clyd newydd yn adeiladu ar y llwyddiant hwnnw ac yn ceisio taclo tlodi tanwydd a’r argyfwng hinsawdd.
“Mae’r nifer sydd mewn tlodi tanwydd yng Nghymru wedi cynyddu oherwydd diffygion y farchnad cyflenwi ynni – rydym wedi galw droeon am ddiwygio ar fyrder, gan gynnwys cyflwyno tariff cymdeithasol newydd.”
Bydd rhagor o fanylion am y Rhaglen Cartrefi Clyd newydd yn cael eu cyhoeddi yn fuan.
Bydd yn canolbwyntio ar helpu aelwydydd sydd leiaf abl i dalu, yn arbennig y rheini sy’n dioddef neu sydd mewn perygl o ddioddef tlodi tanwydd yn y sectorau perchen-feddianwyr, rhentu preifat a chydweithredol, i sicrhau bod y newid i gartrefi carbon isel yn gyfiawn a fforddiadwy.
Mae disgwyl y bydd £35m yn cael ei neilltuo ar gyfer y Rhaglen newydd yn 2024/25.