Mae “lot o siarad am greu Deddf Awtistiaeth ond mae angen gweithredu,” yn ôl mam dynes ifanc sydd ag awtistiaeth.
Daw hyn wrth i Mark Isherwood, Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Awtistiaeth ac sydd wedi ceisio cyflwyno Bil Awtistiaeth yng Nghymru yn flaenorol, ddweud y dylid ailedrych ar hyn o ganlyniad i “ganiatáu i arfer gwael barhau i fodoli”.
Ddechrau 2019, pleidleisiodd y Senedd yn erbyn Bil Awtistiaeth, gydag aelodau Ceidwadol a Phlaid Cymru yn pleidleisio o’i blaid, ac aelodau Llafur yn pleidleisio yn ei erbyn.
Cafodd ei gyflwyno gan Paul Davies, arweinydd grŵp y Ceidwadwyr ar y pryd, ac roedd yntau’n dadlau y byddai’n hwyluso’r broses o gael diagnosis o awtistiaeth.
Mae Cath Dyer, sydd â merch awtistig 29 oed, yn cytuno â Mark Isherwood fod yr angen am ddeddf yn parhau a bod angen gweithredu.
‘Clywed bron yn ddyddiol gan bobol sy’n parhau i frwydro am gefnogaeth’
Mewn cyfarfod llawn yn y Senedd ddydd Mawrth (Mai 2), dywedodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol nad oedd diben ailymweld â’r posibilrwydd o gyflwyno Deddf Awtistiaeth.
“Rwy’n clywed bron yn ddyddiol gan bobol niwroamrywiol, eu teuluoedd a’u gofalwyr, sy’n dal i orfod brwydro am y gefnogaeth a’r gwasanaethau sydd eu hangen arnyn nhw i fyw bywydau annibynnol, dim ond i gael eu beio gan uwch swyddogion sy’n gwrthod deall naill ai eu niwroamrywiaeth neu eu dyletswyddau cyfreithiol o dan y Ddeddf Cydraddoldeb, y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, ac wrth gwrs y cod statudol y cyfeiriasoch ato,” meddai Mark Isherwood wrth ymateb.
“Ceisiais hefyd gyflwyno Bil Awtistiaeth cyn Paul Davies, ac mae’n rhaid i mi anghytuno, yn seiliedig ar fy ngwaith achos dyddiol, â’r Gweinidog pan ddywedodd nad oes diben ailedrych ar y mater hwn, oherwydd gallaf eich sicrhau, lle mae arfer da yn bodoli mae’n ganmoladwy, ac mae’n dda i’r bobol sy’n byw yn yr ardaloedd hynny, ond mae arfer gwael yn cael ei ganiatáu i barhau i fodoli oherwydd nid oes gennym ni’r dyletswyddau cyfreithiol o hyd a fyddai wedi cael eu cyflwyno gan fy Neddf i ac yna Deddf Paul.”
Galw am wasanaethau digonol yng Nghymru
“Yn bendant, mae dal angen Deddf Awtistiaeth,” meddai Cath Dyer wrth golwg360.
“Mae’n galed i bobol gydag awtistiaeth – plant, oedolion ifanc, unrhyw un.
“Mae’n rhaid iddyn nhw gael llais a rhywun sy’n gallu siarad drostyn nhw.
“Fi’n teimlo’n gryf fod rhaid iddyn nhw gael cefnogaeth.
“Mae rhai pobol yn aros blynyddoedd jest am ddatganiad o beth sydd gyda nhw.”
Ond nid yn unig yr oedi wrth dderbyn diagnosis sy’n ei phoeni, ond hefyd y gwasanaethau sydd eu hangen ar yr unigolion a’u teuluoedd wedi hynny.
“Mae lot o bobol gydag awtistiaeth, fi’n gwybod, yn byw gartref gyda’u rhieni nhw, sy’n ddigon teg achos maen nhw’n mo’yn gofalu amdanyn nhw.
“Ond does dim canolfan ddydd, does dim llefydd iddyn nhw fynd, does dim digon o bobol sy’n gofalu amdanyn nhw i’w helpu nhw.”
Gorfod mynd i Brighton
Cafodd Claire Dyer ei hanfon i Brighton ychydig o flynyddoedd yn ôl, ar ôl i Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg benderfynu nad oedd lleoliad addas ar ei chyfer yng Nghymru.
“Ni’n byw yn Abertawe felly roedd e’n pum awr i deithio un ffordd,” meddai Cath Dyer.
“Roedden ni’n cael yr hawl i’w gweld hi am ddwy awr bob dydd Sul, felly fel teulu roedden ni’n gadael y tŷ am 5 o’r gloch ar fore Sul, cyrraedd yno am 10 o’r gloch, cael gweld Claire o 10 tan 12 o’r gloch, ac wedyn gorfod gyrru yn ôl.
“Hyd yn oes os oes problemau, ac mae angen i rai pobol ag awtistiaeth gael cefnogaeth ychwanegol, ddylai ddim bod rhaid iddyn nhw fynd i Loegr.
“Pan oedd Claire tua 15 oed, roedd rhaid i ni deithio i Fryste ac roedd hwnna’n ddwy awr i ffwrdd o ble dyn ni’n byw.
“Mae’n ormod i deuluoedd.
“Mae’n rhaid iddyn nhw gael rhywbeth sy’n mynd i weithio yng Nghymru.
“Y broblem yw bod lot o siarad am bethau, ond mae’n rhaid gweithredu hefyd.”
Rhieni’n bryderus dros ddyfodol eu plant
Mae Claire Dyer bellach yn 29 oed ac yn byw adref gyda’u rhieni, ond mae ei mam yn bryderus am sefyllfa ei merch ac unigolion eraill ag awtistiaeth wrth i’w rhieni heneiddio.
“Ni’n gwneud popeth dyn ni’n gallu, ond mae hi’n 29 oed, ac rydyn ni’n mynd yn hŷn hefyd.
“Mae’n rhaid meddwl am y dyfodol hefyd, a dw i’n nabod lot o rieni sy’n bryderus am y dyfodol.
“Mae’r dyfodol yn pryderu nhw shwd gymaint.
“Beth sy’n mynd i ddigwydd i’n plentyn ni os oes rhywbeth yn digwydd i ni?
“Dyna’r broblem fwyaf, fi’n credu, i lot o bobol.”