Mae Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, yn dweud eu bod nhw’n cymryd adroddiad i’r diwylliant o fewn y blaid o ddifrif.

Dywed yr adroddiad, gafodd ei gomisiynu gan Blaid Cymru, fod angen i’r blaid “ddadwenwyno diwylliant o aflonyddu, bwlio a gwreig-gasineb”.

Roedd “gormod o achosion o ymddygiad drwg” gan wleidyddion y Blaid, meddai, ac mae’r arweinydd Adam Price wedi ymddiheuro.

Fe wnaeth yr adroddiad 82 o argymhellion, ac maen nhw i gyd wedi cael eu derbyn.

Ymchwiliad

Cafodd yr ymchwiliad ei lansio fis Rhagfyr y llynedd yn dilyn cwynion am y diwylliant o fewn Plaid Cymru, ac fe gafodd ei arwain gan gyn-wleidydd y Blaid, Nerys Evans.

Dywed adroddiad Prosiect Pawb fod “diffyg gweithredu dros nifer o flynyddoedd”, a bod y diffyg gweithredu hwnnw “wedi gwneud sefyllfa ddrwg yn waeth fyth”.

Clywodd yr ymchwiliad dystiolaeth ar ffurf holiadur di-enw, ac fe ddaeth o hyd i achosion i aflonyddu rhywiol, bwlio a gwahaniaethu nad ydyn nhw’n “achosion unigol”, meddai’r adroddiad, sy’n dweud bod y rhan fwyaf o’r gwahaniaethu ar sail rhywedd.

Mae’r adroddiad yn galw ar Bwyllgor Gweithredol Cenedlaethol Plaid Cymru i weithredu ar sail yr argymhellion er mwyn sicrhau bod y Blaid “wirioneddol ac yn weladwy yn groesawgar i fenywod”.

Mae’r adroddiad hefyd yn beirniadu “diffyg arweinyddiaeth a llywodraethiant cilyddol ar draws y blaid”, a bod hynny wedi gwaethygu’r sefyllfa dros nifer o flynyddoedd.

Gweithredu

Yn ôl Liz Saville Roberts, fu’n siarad â’r rhaglen Wales Live ar y BBC, mae Plaid Cymru wedi cyhoeddi’r adroddiad gan eu bod nhw’n ystyried bod y sefyllfa’n “hynod ddifrifol”.

“Dw i’n croesawu’r ffaith ei fod o [Adam Price] wedi siarad yn agored, ei fod o’n bwyllog o ran yr hyn yw’r ffordd fwyaf diffuant i symud ymlaen.

“Mae o wedi cydbwyso hynny ac wedi dod i’r casgliad y byddai’n methu yn ei ddyletswydd [pe bai’n ymddiswyddo].

“Tybed a fyddai unrhyw blaid wleidyddol arall wedi cyhoeddi dogfen mor bwerus â hon?

“Plaid fach ydyn ni, mae llywodraethiant a sut rydyn ni’n gweithredu’n gyfrifoldeb i nifer o bobol – fi ydy’r arweinydd yn San Steffan, mae gennym ni gadeirydd newydd, prif weithredwr newydd, ac mae angen i ni i gyd edrych ar yr argymhellion a gweithredu arnyn nhw.”

Wrth drafod a ddylai Adam Price gamu o’r neilltu, fel y bu’r Blaid yn galw amdano yn achos Steve Phillips, cyn-brif weithredwr Undeb Rygbi Cymru adeg helynt honiadau tebyg, dywedodd ei bod hi’n credu bod Adam Price yn “dangos arweiniad”.

“Dw i yn meddwl bod Adam yn dangos arweiniad yn yr ystyr ei fod yn ymrwymo i fwrw ymlaen â’r 82 o argymhellion a gweithio gyda nhw.

“I ni fel plaid, mae angen i ni dderbyn yr argymhellion hynny.

“Yr hyn y byddwn i’n ei ddweud ydy’r gwahaniaeth rhyngom ni ac Undeb Rygbi Cymru ydy pa mor ddifrifol rydyn ni’n cymryd hyn rŵan.

“Does dim gwrthiant wedi bod mewn unrhyw ffordd.

“Fel plaid, mae gan bob gwleidydd blaenllaw gyfrifoldeb wrth gydnabod ein bod ni wedi bod yn rhan o’r gorffennol.

“Dydyn ni ddim yn dimau ar wahân yn San Steffan, yn y Senedd ac yn y pencadlys.”

Cymryd cyfrifoldeb

Dywed Liz Saville Roberts ei bod hithau hefyd yn cymryd cyfrifoldeb am sefyllfa Plaid Cymru.

“Rydyn ni i gyd yn rheoli staff, i gyd yn gweithio er mwyn datblygu gwleidyddion ifainc,” meddai.

“Dw i eisiau’n fawr iawn fod y blaid yn rywle y gall dynion a merched fod yn gyfforddus wrth ddod ymlaen.

“Fel plaid, felly, mae angen i ni gydweithio, allwn ni ddim fforddio jyst edrych ar hyn fel mater i un unigolyn.

“Os ydych chi’n sôn am newid diwylliant, allwch chi ddim edrych ar y peth yn y termau syml hynny.

“Mae gennym ni gadeirydd newydd yn y Blaid, prif weithredwr newydd, pwyllgor gwaith cenedlaethol y blaid, a bydd hyn yn fater ar yr agenda ym mhob un o’i gyfarfodydd.

“Rydyn ni am gynyddu nifer y cyfarfodydd sy’n adrodd yn ôl ar sut mae hyn yn datblygu, gydag adroddiad cadarn erbyn diwedd y flwyddyn hon.

“Dw i yn teimlo, o siarad efo staff, fod pobol yn teimlo bod y diwylliant wedi newid er gwell.

“Gyda’r adroddiad hwn gan Nerys Evans y gwnaethon ni ei gomisiynu, dw i’n meddwl bod yna ddatganiad clir iawn ein bod ni’n derbyn pa mor ddifrifol a pha mor ddrwg ydy hyn, a bod angen symud ymlaen â’r brys mwyaf.”