Mae’r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas yn honni mewn llyfr newydd fod Charles, Tywysog Cymru ar y pryd, wedi dweud wrtho nad oedd yn ymwybodol o’r bwriad i newid enw Pont Hafren yn ‘Prince of Wales Bridge’.
Yn ôl y cyn-wleidydd, “He really wasn’t happy at all…. What he told me was, “Of course, I would have called it ‘Pont y Tywysogion’, wouldn’t I?”
Awdur y llyfr Charles: The King and Wales yw gohebydd BBC Cymru Huw Thomas, gafodd y syniad o ysgrifennu llyfr ôl gweld Charles mewn sawl agoriad swyddogol.
Ers 2021, mae wedi cynnal tua 30 o gyfweliadau i gyd, ond dim ond tua hanner y cyfranwyr oedd yn fodlon cael eu henwi.
Ymhlith y cyfranwyr mae’r ymgyrchydd a’r canwr Dafydd Iwan, cyn-Lywydd y Senedd Dafydd Elis-Thomas, y cyn-ganghellor a’r hanesydd Deian Hopkin, yr Arglwydd Raglaw Syr Norman Lloyd-Edwards, Paul Mealor y cyfansoddwr, a Justin Albert, cyn-gyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru.
“Mae e wedi dweud yr un stori wrtha i gwpwl o weithiau felly dw i’n ddigon hyderus ei fod yn wir,” meddai Huw Thomas wrth Golwg.
“Mae gan bawb ei farn ar faint mae Dafydd Elis-Thomas wedi ei wneud i gysylltu’r Frenhiniaeth gyda’r Senedd yng Nghaerdydd, ond mae wedi dod i’w nabod yn dda iawn.
“Mae’r stori yma yn dangos i mi’r ymrwymiad a’r ddealltwriaeth oedd gyda Charles ynglŷn â gwleidyddiaeth yn fwy na dim…
“Yn amlwg, o safbwynt yr Ysgrifennydd Gwladol, roedd yn rhywbeth roedd y Palas yn hapus ag e.
“Ond deuddydd ar ôl yr achlysur, dyna pryd mae [Charles] yn mynd â Dafydd Êl i gornel fach dawel yn Nhre-tŵr i ddweud hyn.”
- Darllenwch ragor yn rhifyn Golwg yr wythnos hon, sydd ar gael i’w brynu nawr.