Mae Clwb Pêl-droed Abertawe’n dweud bod diffibriliwr y tu allan i Stadiwm Swansea.com wedi cael ei ddifrodi ddydd Llun (Mai 1).

Mae’r peiriant dan sylw yn ne-orllewin y stadiwm fel ei fod yn “hygyrch i’r cyhoedd pe bai argyfwng meddygol”.

Mae’r diffribriliwr wedi cael ei symud tan ei fod yn cael ei drwsio, ac mae’r clwb yn dweud ei bod hi’n “anodd deall pam fyddai unrhyw un eisiau cyflawni’r fath weithred” o ddifrod.

Dywed y clwb fod ganddyn nhw luniau camerâu cylch-cyfyng o’r digwyddiad a bod y mater wedi cael ei gyfeirio at Heddlu’r De.