Mae cartref tîm hoci iâ Devils Caerdydd wedi cael ei ailenwi’n Arena Vindico.

Daw hyn wrth i’r clwb a’r cwmni technoleg ddod i gytundeb pum mlynedd i ailenwi Arena Iâ Cymru o fis yma.

Bydd dolenni gwefan a chyfryngau cymdeithasol y clwb hefyd yn cael eu haddasu i adlewyrchu’r newid, gyda brandio’r clwb a’r arena yn cael eu newid erbyn yr haf.

Mae Vindico eisoes yn un o noddwyr y clwb a’i dechnoleg, ond fel rhan o’r bartneriaeth newydd fe fydd y dechnoleg yn cael ei gwella a’i datblygu er mwyn gwella profiadau cefnogwyr.

Dywed Vindico fod y cytundeb yn “fwy na chytundeb busnes” iddyn nhw, ac mae’r Devils yn dweud eu bod nhw’n edrych ymlaen at gydweithio pellach rhyngddyn nhw.