Bydd Chris Gunter yn ymuno â thîm hyfforddi Cymru fel Hyfforddwr Datblygu’r Tîm Cenedlaethol, yn dilyn ei ymddeoliad o chwarae pêl-droed ar ddiwedd y tymor hwn.

Bydd y swydd ran-amser yn cynnig cefnogaeth i’r chwaraewyr ifainc wrth iddyn nhw drosglwyddo i bêl-droed uwch, a bydd hefyd yn cefnogi gwaith Cymdeithas Bêl-droed Cymru i sicrhau talent ar lwybr y tîm cenedlaethol.

Mae Chris Gunter eisoes wedi cyhoeddi ei fod yn ymddeol o bêl-droed proffesiynol, ac yn dweud ei fod yn edrych ymlaen at y rôl newydd.

‘Hynod o ddiolchgar’

“Rwy’n teimlo’n hynod o ffodus a bendithiol fy mod wedi mwynhau uchafbwyntiau ac isafbwyntiau dros y 17 neu 18 mlynedd diwethaf,” meddai Chris Gunter, fu’n chwarae i Gymru fel cefnwr.

“Mae’r mwy na 700 o gemau wedi dod â llawer o heriau a chyfleoedd, a thrwy’r cyfan rydw i wastad wedi rhoi popeth iddi.

“Ni fyddai wedi bod yn bosib heb gefnogaeth fy nheulu o’r eiliad y dechreuais i chwarae pêl-droed.

“Maen nhw wedi dilyn a chefnogi fy nhaith bob cam o’r ffordd.

“Fodd bynnag, rwy’n teimlo’n barod ac yn gyffrous ar gyfer pennod nesaf fy ngyrfa.

“Rydw i’n hynod o ddiolchgar i Gymdeithas Bêl-droed Cymru, ac i Robert Page yn enwedig.

“Ar ôl cwblhau fy mathodynnau hyfforddi, byddaf yn dechrau fy rôl newydd yn yr haf.

“Mae’n gyfle cyffrous i weithio ochr yn ochr â Rob, a’r staff.”

‘Ychwanegu gwerth enfawr’

“Rydym yn falch iawn o groesawu Chris i’n tîm technegol fel hyfforddwr datblygu, bydd ei brofiadau yn ychwanegu gwerth enfawr i’n chwaraewyr ifanc sy’n trosglwyddo i Uwch Garfan ein Dynion,” meddai Dr David Adams, Prif Swyddog Pêl-droed Cymru.

Bydd tîm Rob Page yn parhau â thaith ragbrofol EURO 2024 fis nesaf yn erbyn Armenia a Thwrci.

Mae tocynnau ar gyfer y gêm Armenia ar ddydd Gwener 16 Mehefin yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar gael nawr ar gyfer aelodau’r Wal Goch, a byddan nhw’n mynd ar werth yn gyffredinol ddydd Mawrth, Mai 9 ar wefan docynnau Cymdeithas Bêl-droed Cymru.