Mae’r prop Nicky Smith wedi ymestyn ei gytundeb gyda rhanbarth rygbi’r Gweilch.

Fe fu’n aelod o garfan y rhanbarth er pan oedd e yn ei arddegau yn chwarae i Waunarlwydd, ac mae e bellach wedi chwarae 174 o gemau, gan ennill 42 o gapiau dros Gymru hefyd.

Mae’r prif hyfforddwr Toby Booth yn dweud ei fod e’n falch o fod wedi cadw’r chwaraewr yn y rhanbarth.

“Mae’n bwysig i ni ein bod ni’n cadw ein talentau cartref gorau, ac mae Nicky yn llofnodi yn dystiolaeth bellach o hynny,” meddai.

“Mae e wedi bod yn un o’n harweinwyr allweddol ni y tymor hwn, ac mae’n ran hanfodol o’n pac ni.

“Boed yn y chwarae gosod neu’r chwarae agored, mae e’n gwneud gwahaniaeth.

“Mae e’n eithriadol o ymroddedig ac yn chwaraewr sy’n gweithio’n galed gan roi nodau’r tîm yn gyntaf.

“Mae e’n enghraifft berffaith o broffesiynoldeb.”

‘Rôl allweddol’

Dywed Nicky Smith ei fod e eisiau chwarae “rôl allweddol” yn nyfodol y Gweilch.

“Dyma fy rhanbarth cartref,” meddai.

“Dw i wedi bod gyda’r Gweilch er pan oeddwn i yn fy arddegau, a dyma lle dw i wedi chwarae fy holl yrfa broffesiynol hyd yn hyn.

“Dw i eisiau chwarae rôl allweddol wrth helpu’r rhanbarth i gyflawni ein nodau, a gwneud ein cefnogwyr yn falch.

“Mae gyda ni grŵp gwych o fois yma, ac mae’r hyfforddwyr yn ein gwthio ni i gyd i fod y tîm gorau gallwn ni fod.”