Mae Clwb Pêl-droed Abertawe wedi cyhoeddi mai Andy Coleman, dyn busnes llwyddiannus yn yr Unol Daleithiau, yw eu cadeirydd newydd.

Mae ganddo fe gyfranddaliadau sylweddol yn y clwb fel rhan o’r cytundeb, ac fe fydd yn arwain y grŵp o berchnogion sydd gan yr Elyrch.

Bydd yn rheoli’r clwb o ddydd i ddydd, gan symud i’r ddinas gyda’i deulu ifanc.

Yn ôl y clwb, mae ei benodiad yn sicrhau presenoldeb o fewn y clwb, ac fe fydd yn cydweithio â’r tîm rheoli i fireinio busnes y clwb, gan gynnwys eu strategaeth.

Mae Jason Levien, un o gyfranddeiliaid y clwb, wedi croesawu Andy Coleman i’r clwb, gan ddweud bod angen “cadeirydd ar lawr gwlad” arnyn nhw, ac mae e wedi canmol ei angerdd, ei ymrwymiad a’i arweinyddiaeth.

Mae gan Andy Coleman enw da ym maes lletygarwch, ac yntau wedi adeiladu un o’r busnesau gorau ar gyfer Berkadia.

Fe fu’n ymwneud â Chlwb Pêl-droed DC United, clwb y perchnogion Steve Kaplan a Jason Levien, gan ailsefydlu Sefydliad DC United ac mae lle i gredu ei fod yn awyddus i gydweithio â Sefydliad yr Elyrch yn ei swydd newydd.

‘Anrhydedd’

“Mae’n anrhydedd i fi gymryd y cyfrifoldeb o fod yn gadeirydd ar Abertawe,” meddai Andy Coleman.

“Dw i wedi gweld drosof fy hun ar sawl ymweliad ag Abertawe, angerdd ac ymroddiad y cefnogwyr, a faint mae’n ei olygu i’r ddinas hon.

“Dw i’n rhoi fy holl fywyd i mewn i’r clwb hwn a’r gymuned hon.

“Dw i’n addo gweithio’n ddiflino i gynrychioli’r clwb mewn ffordd y gall cefnogwyr ymfalchïo ynddi.

“Dw i eisiau rhannu yn eu brwdfrydedd am y clwb a’i lwyddiant, a dw i eisiau i bawb ohonom ei fwynhau gyda’n gilydd.

“Mae’r cyfleusterau a’r isadeiledd heb eu hail, ac rydym yn edrych ymlaen at adeiladu ar gryfderau’r clwb i roi Abertawe yn y lle gorau posib i wireddu ein nodau gyda’n gilydd.”