Mae Samit Patel, y chwaraewr amryddawn dreuliodd gyfnod ar fenthyg gyda thîm criced Morgannwg yn 2019, yng ngharfan Swydd Rydychen ar gyfer dwy gêm ugain pelawd yn erbyn Cymru ym Mhontarddulais ddydd Sul (Mai 7).

Rhain fydd dwy gêm olaf Cymru yn y gystadleuaeth ugain pelawd, gyda’r naill yn dechrau am 11yb a’r llall am 2.30yp.

Mae Patel, oedd wedi chwarae mewn 18 gêm ugain pelawd dros Loegr, wedi ymuno â Swydd Rydychen fel chwaraewr proffesiynol eleni, a hwythau ar ddechrau’r tymor wedi gobeithio amddiffyn eu teitl.

Ond mae’r ddau dîm allan o’r twrnament eisoes, a bydd Cymru’n awyddus i ddefnyddio’r gêm fel sesiwn ymarfer ar gyfer y Tlws Undydd sy’n dechrau’n ddiweddarach y mis yma.

Bydd Cymru’n croesawu Tom Bevan yn ôl am y tro cyntaf ers iddo fe gael cytundeb proffesiynol gyda Morgannwg, ac mae dau o chwaraewyr eraill y sir, Ben Kellaway a Ben Morris, hefyd ar gael i Gymru tra bod Harry Friend a Morgan Bevans allan oherwydd arholiadau.

Mae Jack Harding yn cael gorffwys ar ôl chwarae i ail dîm Morgannwg, ac mae Tegid Phillips, sy’n cael ei noddi gan golwg360 y tymor hwn, yn dychwelyd ar ôl gwella o anaf i’w droed.

Mae disgwyl i Henry Hurle, sy’n 18 oed, chwarae dros Gymru am y tro cyntaf ar ôl dechrau cryf yn Uwch Gynghrair De Cymru.

Carfan Cymru: S Pearce (capten, Lansdown), T Bevan (Castell-nedd), C Hemp (Abertawe), H Hurle (Caerdydd), B Wadlan (Abertawe), B Kellaway (Pen-y-bont), R Smith (Sain Ffagan), W Smale (Taunton Deane), T Phillips (Caerdydd), R Edwards (Castell-nedd), B Morris (Pontarddulais), S Jaspal (Rhydaman).

Tegid Phillips yn bowlio

Tymor Tegid: Rhan 1

Fel rhan o bartneriaeth rhwng Criced Cymru a golwg360, mae Tegid Phillips yn rhannu ei feddyliau drwy gydol y tymor criced