Daeth ymgyrch ugain pelawd tîm criced Siroedd Cenedlaethol Cymru i ben dros y penwythnos gyda dwy fuddugoliaeth o wyth wiced dros Swydd Rydychen ym Mhontarddulais.

Sgoriodd yr ymwelwyr 67 am naw yn eu gêm gyntaf, wrth i Richard Edwards gipio tair wiced am 11 i’r Cymry, ac roedd dwy wiced am naw hefyd Saihaj Jaspal.

Roedd gan Gymru fwy nag wyth pelawd yn weddill pan gyrhaeddon nhw’r nod, wrth i Cameron Hemp (30 heb fod allan) a Brad Wadlan (29 heb fod allan) adeiladu partneriaeth o 57.

Roedd Jaspal yn ei chanol hi unwaith eto yn yr ail gêm, gan gipio tair wiced am 11, gyda Ben Morris yn cipio dwy am 15 gyda’r Saeson yn sgorio 115 am chwech.

Tarodd Ben Kellaway 50 heb fod allan, gyda chyfraniadau o 28 gan Hemp a 24 heb fod allan i Wadlan yn helpu Cymru i sicrhau eu hail fuddugoliaeth.

Tegid Phillips yn bowlio

Cymru’n herio Swydd Rydychen

Bydd Samit Patel, dreuliodd gyfnod ar fenthyg gyda Morgannwg yn 2019, yng ngharfan yr ymwelwyr
Tegid Phillips yn bowlio

Tymor Tegid: Rhan 1

Fel rhan o bartneriaeth rhwng Criced Cymru a golwg360, mae Tegid Phillips yn rhannu ei feddyliau drwy gydol y tymor criced