Tarodd Adam Lyth 174 i achub Swydd Efrog ar ddiwrnod olaf gêm Bencampwriaeth Morgannwg yn Headingley ddoe (dydd Sul, Mai 7).

Roedd y Saeson yn 412 am naw ar ddiwedd yr ornest, wrth iddyn nhw gwrso 492 i ennill.

Adeiladodd Lyth a George Hill (60) bartneriaeth o 138 wrth i’r tîm cartref lygadu’r fuddugoliaeth, ond cipiodd James Harris dair wiced am 87 a Jamie McIlroy ddwy wiced am 57 i selio’r gêm gyfartal i’r sir Gymreig.

Roedd pedair wiced i’r Iseldirwr Timm van der Gugten.

Ond goroesodd Jordan Thompson (55 heb fod allan) a Mickey Edwards y saith pelawd olaf, ond gallai Morgannwg fod wedi ennill gyda dau gyfle i waredu Lyth ar ei ffordd i’r sgôr hollbwysig.

Roedd Morgannwg i gyd allan am 245 yn eu batiad cyntaf, gyda chyfraniadau o 65 gan Marnus Labuschagne, 49 gan Sam Northeast a 35 heb fod allan gan van der Gugten, gyda thair wiced yr un i Mickey Edwards a Hill.

Y bowliwr cyflym o Awstralia, Michael Neser, oedd y seren gyda’r bêl i Forgannwg yn ystod batiad cynta’r Saeson, wrth iddo fe gipio saith wiced am 32, gan gynnwys hatric – ail ei yrfa a’i gyntaf mewn gemau dosbarth cyntaf.

Sgoriodd y sir Gymreig 245 yn eu hail fatiad, wrth i Labuschagne daro 170 heb fod allan i osod y seiliau, gyda Sam Northeast hefyd yn sgorio 66 a Billy Root 51 heb fod allan wrth i Forgannwg gau eu batiad ar 352 am bedair i osod nod sylweddol.

Ymateb Morgannwg

“Roedd honno’n gêm wych,” meddai Matthew Maynard, prif hyfforddwr Morgannwg.

“Roedd hi’n ymdrech law gan yr hogiau i ddod yn ôl ar ôl colli’r dafl a chael 245 yn y batiad cyntaf.

“Bowliodd Michael Neser a Timm van der Gugten yn hyfryd wedyn.

“Wedyn roedd yna bartneriaethau gwych gyda’r bat [yn yr ail fatiad].

“Iddyn nhw fod dwy [wiced] i lawr erbyn amser te, fyddai llawer o bobol ddim wedi rhoi fawr o obaith i ni.

“Ond roedd agwedd yr hogiau’n wych.

“Gall gemau gael eu penderfynu ar bethau bach – nifer yr ergydion gafodd eu chwarae a’u methu yn y sesiwn olaf honno.

“Roedd hi’n gêm wych o griced, a chwaraeodd Lyth a Thompson yn dda iddyn nhw.

“Mae Jamie [McIlroy] wedi bowlio’n dda heb fawr o lwc yn ddiweddar.

“Roedd hi’n wych ei fod o wedi cael ambell wobr.

“Rydan ni’n gwybod fod gan James [Harris] ambell sesiwn wych ynddo fo, a ddaru o wneud hynny yn y sesiwn olaf i roi llygedyn o obaith i ni.

“Pe na bai oedi oherwydd y tywydd, dw i’n meddwl y byddai wedi bod yn wahanol.”