Mae cadeirydd newydd Clwb Pêl-droed Abertawe wedi mynegi “siom eithriadol” ynghylch y dyfalu am ddyfodol y prif weithredwr a’r pennaeth recriwtio.

Daw sylwadau Andy Coleman ar ddiwrnod ola’r tymor, wrth i’r Elyrch baratoi i herio West Brom yn Stadiwm Swansea.com heddiw (dydd Llun, Mai 8).

Ers i Coleman gael ei benodi, ac ar drothwy ei fuddsoddiad e, Nigel Morris a Brett Cravatt o £10m, fe fu cryn ddyfalu am ddyfodol Julian Winter a Josh Marsh, a’r disgwyl yw iddyn nhw adael eu swyddi.

Daw hyn ar ôl cyfnod cythryblus i’r clwb oddi ar y cae, gyda ffenest drosglwyddo Ionawr lle cafodd Michael Obafemi ei golli i Burnley, a fawr neb wedi ymuno â’r clwb.

A dydy cytundebau nifer o chwaraewyr allweddol eraill heb eu penderfynu’n derfynol eto, na chwaith y rheolwr Russell Martin, sydd â blwyddyn yn weddill o’i gytundeb presennol.

Ar hyn o bryd, y dyfalu yw y bydd yr Elyrch hefyd yn penodi Paul Watson o Luton yn Gyfarwyddwr Chwaraeon ynghyd ag un swyddog blaenllaw arall.

“Mae Clwb Pêl-droed Abertawe’n credu bod pobol yn bwysig,” meddai Andy Coleman mewn datganiad.

“Dw i’n credu bod pobol yn bwysig.

“Dw i wedi fy siomi’n eithriadol gan y dyfalu diweddar yn y cyfryngau o ran Julian Winter a Josh Marsh.

“Dydy hynny ddim yn ocê, ac mae’n rywbeth alla i ddim gadael iddo sefyll, yn syml iawn.

“Byddwn ni fel clwb bob amser yn cefnogi aelodau ein cymuned pan fydd drwg yn eu herbyn.”