Mae disgwyl i Sabri Lamouchi, rheolwr tîm pêl-droed Caerdydd, gyfarfod â phenaethiaid y clwb heddiw (dydd Mawrth, Mai 9) i drafod ei ddyfodol.
Mae’r Adar Gleision wedi osgoi’r gwymp o’r Bencampwriaeth ar ddiwedd tymor digon siomedig, ond dydy dyfodol y Ffrancwr ddim wedi’i ddatrys eto, gyda’i gytundeb yn dod i ben yn fuan.
Mae’n rhybuddio bod rhaid gweithredu cyn gynted â phosib er mwyn osgoi brwydro yn erbyn y gwymp unwaith eto y tymor nesaf.
Daeth eu tymor i ben gyda cholled o 3-0 yn erbyn y pencampwyr Burnley yn eu gêm olaf ddoe (dydd Llun, Mai 8).
“Yr wythnos hon, cyn gynted â phosib, fory,” meddai’r rheolwr pan gafodd ei holi gan y BBC ynghylch pryd fyddai’r cyfarfod yn cael ei gynnal.
“Dw i ar wyliau nawr, a dw i’n mynd adref.
“Dw i’n barod i gyfarfod â fy nghadeirydd, fy mherchennog, pryd bynnag maen nhw eisiau.
“Caerdydd neu Lundain yw fy nghartref, felly dw i’n dal yma.
“Dechreuais i ar y gwaith o wersyll cyn dechrau’r tymor, trosglwyddiadau, gemau cyfeillgar.
“Dw i eisiau bod yn broffesiynol hyd y diwedd, hyd yn oed os ydyn nhw’n newid neu eisiau rheolwr arall.
“Fy ngwaith yw bod yn broffesiynol hyd y diwedd.
“Heddiw oedd y diwedd, mae’r gwaith wedi’i wneud.
“Rydyn ni yn y Bencampwriaeth y tymor nesf, felly beth nesaf?
“Dw i’n gwybod beth hoffwn i ei wneud, felly nawr mae angen i fi gyfarfod â’r perchennog a’r cadeirydd.”