Cadw chwaraewyr sydd allan o gytundeb, ac nid llofnodi cytundeb newydd ei hun, yw blaenoriaeth Russell Martin, rheolwr tîm pêl-droed Abertawe.

Mae ganddo fe flwyddyn yn weddill o’i gytundeb, ac mae’r cadeirydd newydd Andy Coleman eisoes wedi awgrymu ei fod e’n awyddus i’w gadw yn Stadiwm Swansea.com yn y tymor hir.

“Dywedodd ei fod e’n hoffi’r hyn rydyn ni’n ei wneud,” meddai Russell Martin wrth y BBC.

“Dywedodd fod y grŵp perchnogion wedi mynegi diddordeb mewn ceisio ymestyn y cytundeb, felly bydd yn rhaid i ni aros i weld.

“Efallai bod blaenoriaethau eraill ar hyn o bryd, ond fe gawn ni weld.

“Mae blwyddyn ar ôl gyda fi.

“Mae gyda ni fois sydd allan o gytundeb, felly rhaid i hynny fod yn flaenoriaeth go iawn.”

Bydd cytundebau Ryan Manning, Joel Latibeaudiere a Kyle Naughton yn dod i ben yn fuan, ond gallai sefyllfa Russell Martin gael effaith ar benderfyniadau’r tri a fyddan nhw’n aros neu beidio.

Mae….. hefyd wedi’i gysylltu â swydd rheolwr Caerlŷr, ar ôl i Brendan Rodgers, cyn-reolwr Abertawe, gael ei ddiswyddo’n ddiweddar, gyda Dean Smith wedi’i benodi dros dro tan ddiwedd y tymor ond yn wynebu’r posibilrwydd o gwympo o Uwch Gynghrair Lloegr o hyd.

Daeth yr Elyrch yn agos at y gemau ail gyfle eleni, gan orffen yn ddegfed, a thriphwynt yn unig islaw’r safleoedd ail gyfle ar ôl naw gêm ddi-guro i orffen y tymor.

Fe wnaethon nhw ragori ar y tymor diwethaf, gan ennill pum pwynt ychwanegol a gorffen bum safle’n uwch na thymor 2021-22.