Mae Dan Lydiate wedi dychwelyd i ranbarth rygbi’r Dreigiau, lle dechreuodd ei yrfa broffesiynol.

Cafodd y chwaraewr rheng ôl ei enwi yng ngharfan gychwynnol Cymru ar gyfer Cwpan y Byd yn ddiweddar.

Chwaraeodd e 85 o weithiau i’r rhanbarth rhwng 2006 a 2013, gan arwain y tîm droeon.

Mae e wedi ennill 65 o gapiau dros ei wlad, ac roedd yn aelod o garfan Cymru ar gyfer Cwpan y Byd yn 2011 a 2015.

Cafodd ei enwi’n Chwaraewr Gorau Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn 2012, gan ennill gwobr y gohebwyr rygbi yng Nghymru yr un flwyddyn.

Mae e hefyd wedi chwarae i dimau Racing 92 a’r Gweilch, ac roedd yn aelod o garfan y Llewod yn Awstralia yn 2013, gan chwarae ym mhob gêm brawf yn y gyfres lwyddiannus, gan arwain y tîm yn ystod y daith hefyd.

“Mae’n wych cael bod yn ôl,” meddai.

“Mae gen i lawer o atgofion da o’m hamser yma a dw i’n benderfynol o ychwanegu at hynny wrth i fi ddychwelyd.”