Mae cyn-aelod o gyngor Undeb Rygbi Lloegr wedi cael ei wahardd rhag mynd i Twickenham tros sylwadau hiliol yn ystod y gêm yn erbyn Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad y llynedd.

Fe wnaeth Alex Murphy y sylwadau wrth siarad â gwirfoddolwr yn y stadiwm, ac fe ailadroddodd y sylw yn y bar yn ddiweddarach.

Ceisiodd e ymddiswyddo yn ystod yr ymchwiliad.

Cafodd ei holl freintiau eu dileu yn dilyn y digwyddiad, ond dydy hynny ar ei ben ei hun ddim yn adlewyrchu difrifoldeb y sefyllfa, meddai Undeb Rygbi Lloegr.

Maen nhw’n derbyn bod yr iaith gafodd ei defnyddio’n “hynafol a sarhaus dros ben”, ac nad oedd yr awgrym nad oedd yn deall ystyr y gair wrth ei ddefnyddio’n ddigon o amddiffyniad nac yn esgus i barhau i’w ddefnyddio.

Mae Alex Murphy wedi derbyn ei gosb, gan gydnabod ei fod e wedi torri cod ymddygiad Undeb Rygbi Lloegr.