Mae Marnus Labuschagne, batiwr tramor Morgannwg, wedi’i gynnwys yn y garfan am y tro olaf y tymor hwn, wrth iddyn nhw groesawu Swydd Gaerwrangon i Gaerdydd.
Ar ôl y gêm hon, fe fydd yr Awstraliad yn ymuno â’i dîm cenedlaethol i baratoi ar gyfer Cyfres y Lludw yn erbyn Lloegr.
Mae Morgannwg heb fuddugoliaeth o hyd yn y Bencampwriaeth y tymor hwn, ac un fydd yn gobeithio adeiladu ar ei lwyddiant yn y gêm ddiwethaf yn erbyn Swydd Efrog yn Headingley yw’r Awstraliad arall, Michael Neser.
Fe gipiodd e hatric, y tro cyntaf i un o fowlwyr Morgannwg gyflawni’r nod ers Robert Croft yn 2010.
Cipiodd Neser saith wiced am 32, ei ffigurau gorau erioed, yn y gêm hefyd.
Tarodd Labuschagne hanner canred yn y batiad cyntaf yn Headingley, cyn taro 170 heb fod allan yn yr ail fatiad.
Ond daeth y gêm i ben yn gyfartal ar ôl i’r Saeson lwyddo i oroesi’r diwrnod olaf cyffrous.
Mae Morgannwg yn bumed yn yr ail adran yn dilyn pedair gêm gyfartal, tra bod Swydd Gaerwrangon un safle uwch eu pennau.
‘I fyny ac i lawr’
“Rydan ni wedi bod i fyny ac i lawr rywfaint o ran y canlyniadau,” meddai’r capten David Lloyd.
“Dydyn ni ddim wedi colli’r un gêm eto, nac wedi ennill!
“Rydan ni jyst yn ceisio darganfod y cysondeb hwnnw.
“Dw i’n meddwl ein bod ni wedi ei ganfod o yn y gemau diwethaf.
“Mae’r perfformiadau wedi gwella, felly mae llawer i edrych ymlaen ato fo yr wythnos hon.”
Gemau’r gorffennol
Daeth y gêm rhwng Morgannwg a Swydd Gaerwrangon yng Nghaerdydd y llynedd i ben yn gyfartal.
Tarodd Gareth Roderick 172 i’r ymwelwyr wrth iddyn nhw orfodi Morgannwg i ganlyn ymlaen cyn i’r glaw ddod i achub y sir Gymreig ar y prynhawn olaf.
Dydy Morgannwg ddim wedi curo Swydd Gaerwrangon yng Nghaerdydd ers 2013, pan enillon nhw o ddeg wiced diolch i bum wiced Mike Reed, cyn i Jim Allenby daro 78 a chipio pedair wiced.
Yn 2019, sgoriodd Marnus Labuschagne ganred yn y naill fatiad a’r llall, gyda Brett D’Oliveira, capten Swydd Gaerwrangon erbyn hyn, yn sgorio canred wrth i’r ornest orffen yn gyfartal wrth i’r Saeson geisio cwrso 326 mewn 66 pelawd.
Carfan Morgannwg: K Carlson, B Root, J Harris, S Northeast, A Salter, M Neser, M Labuschagne, J McIlroy, C Cooke, T van der Gugten, D Lloyd (capten), E Byrom
Carfan Swydd Gaerwrangon: E Pollock, J Libby, Azhar Ali, J Haynes, B D’Oliveira, A Hose, G Roderick, M Waite, J Leach, J Tongue, B Gibbon, A Finch
Sgorfwrdd: https://www.espncricinfo.com/series/county-championship-division-two-2023-1347098/glamorgan-vs-worcestershire-1347168/full-scorecard