Mae tîm criced Morgannwg wedi cipio’u buddugoliaeth gyntaf y tymor hwn, wrth guro Swydd Gaerwrangon o ddeg wiced yn ail adran y Bencampwriaeth.

Dyma’u buddugoliaeth gyntaf erioed o ddeg wiced yn erbyn y sir yng Nghymru, a’u buddugoliaeth gyntaf o ddeg wiced yn erbyn unrhyw sir ers iddyn nhw guro Caint yn 2021.

Roedd gan Forgannwg nod o 79 yn eu hail fatiad, ac fe gyrhaeddon nhw hwnnw’n gymharol hawdd oddi ar ugain pelawd.

Dechreuodd Swydd Gaerwrangon y diwrnod olaf ar 195 am saith, ar y blaen o 46 rhediad, gyda Matthew Waite heb fod allan ar 45 a gobeithion tila’i dîm o achub y gêm yn gadarn yn ei ddwylo.

Ond cafodd ei fowlio gan y bowliwr cyflym llaw chwith Jamie McIlroy heb ychwanegu at ei sgôr ei hun na chyfanswm ei dîm dros nos, i adael yr ymwelwyr yn 195 am wyth.

Roedden nhw’n 206 am naw pan gafodd Josh Tongue ei ddal yn y slip gan Eddie Byrom oddi ar fowlio Timm van der Gugten am bump, a’r bowliwr yn cipio pum wiced mewn batiad am y trydydd tro eleni.

Daeth y batiad i ben ar 227 pan gafodd Joe Leach ei fowlio gan James Harris am 24, gan adael nod o 79 i Forgannwg gydag awr yn weddill cyn cinio.

Erbyn yr egwyl, roedden nhw’n 34 heb golli wiced ac fe ddaeth y fuddugoliaeth gydag ergyd am bedwar gan Eddie Byrom (51 heb fod allan) i gyrraedd ei hanner canred.

Manylion y gêm

Roedd Morgannwg ar dân o’r dechrau’n deg ar y diwrnod cyntaf, wrth iddyn nhw fowlio’r ymwelwyr allan am 109 mewn cwta deugain pelawd.

Dim ond Gareth Roderick (39) gyfrannodd gyda’r bat i’r Saeson wrth iddyn nhw fethu ag ymdopi â chywirdeb bowlio Michael Neser a James Harris, oedd wedi cipio pedair wiced yr un, gyda Timm van der Gugten yn cipio dwy wrth barhau i geisio llenwi esgidiau mawr Michael Hogan fel prif fowliwr y sir.

Os cafodd Swydd Gaerwrangon broblemau ar lain fowlio berffaith, yna doedd yr un problemau ddim yn amlwg pan ddaeth batiad cyntaf Morgannwg.

Agorodd y capten David Lloyd gyda chyfraniad gwerthfawr o 48 ar frig y batiad, gyda Marnus Labuschagne yn sgorio 42 yn ei gêm olaf cyn ymuno â charfan Awstralia ar gyfer Cyfres y Lludw.

Gyda Labuschagne yn sicr o’i le, un sydd wedi colli allan ar hanner cynta’r gyfres yw Neser, a hwnnw wedi profi’r dewiswyr yn anghywir hyd yn hyn gyda phedair wiced i’w hychwanegu at ei saith yn erbyn Swydd Efrog yn y gêm ddiwethaf.

Ond fe ddangosodd ei 86 yn y batiad cyntaf yn y gêm hon ei fod e’n fatiwr defnyddiol hefyd, ac mae’n anodd dychmygu na ddaw ei gyfle rywbryd yn ystod y gyfres i wisgo crys ei wlad.

Gyda blaenoriaeth batiad cyntaf swmpus o 149, roedd y seiliau wedi’u gosod yn gadarn i Forgannwg o fewn deuddydd.

Er i Azhar Ali (34), Adam Hose (35), Gareth Roderick (36) a Matthew Waite (45) gynnig rhywfaint o sefydlogrwydd i Swydd Gaerwrangon, roedd gormod o waith ganddyn nhw i’w wneud wrth i Forgannwg edrych dipyn mwy fel tîm cyflawn nag y gwnaethon nhw yn yr un o’r gemau blaenorol.

Taith i Sussex sydd nesaf i Forgannwg, a gêm yn erbyn yr Awstraliad Steve Smith ar drothwy’r Lludw, ac mae gan y sir nifer o enwau mawr eraill, gan gynnwys yr Indiad Cheteshwar Pujara.

Mae Morgannwg wedi wynebu colledion trwm droeon gyda diwrnodau’n weddill o gemau, ond yn anaml iawn maen nhw wedi cosbi timau fel maen nhw wedi’i wneud dros y dyddiau diwethaf yn erbyn Swydd Gaerwrangon.

Gyda’r fuddugoliaeth hon y tu ôl iddyn nhw, a chan wybod y gallen nhw’n hawdd iawn fod wedi curo Swydd Efrog, un o dimau gorau’r adran os nad y gorau, mae arwyddion cynnar addawol i Forgannwg y tymor hwn.

Yr hyn fydd yn allweddol iddyn nhw wrth i’r tymor fynd yn ei flaen yw llenwi’r bylchau fydd wedi’u gadael gan Labuschagne a Neser.