Mae Clwb Pêl-droed Caerdydd wedi cyhoeddi ymadawiad eu rheolwr Sabri Lamouchi ar ddiwedd ei gytundeb.

Ymunodd y Ffrancwr â’r Adar Gleision ar gytundeb byr ym mis Ionawr, wrth iddyn nhw frwydro i aros yn y Bencampwriaeth, gan olynu Mark Hudson.

O dan ei arweiniodd, enillodd y tîm chwe gêm allan o ddeunaw, gan lwyddo i osgoi’r gwymp.

Mae’r clwb wedi diolch iddo am ei ymdrechion, gan ddymuno’n dda iddo ar gyfer y dyfodol, ac maen nhw’n dweud bod y broses o benodi ei olynydd eisoes ar y gweill.