Mae adroddiadau bod Sol Bamba wedi cael cynnig swydd rheolwr tîm pêl-droed Caerdydd.

Daw hyn yn dilyn cyhoeddiad gan y clwb ddoe (dydd Mawrth, Mai 16) nad ydyn nhw wedi cynnig cytundeb newydd i Sabri Lamouchi, y Ffrancwr oedd wedi llwyddo i’w cadw nhw yn y Bencampwriaeth am dymor arall.

Mae’r sïon wedi’u cyhoeddi yn The Telegraph, sy’n dweud bod y penderfyniad bellach yn nwylo’r cyn-chwaraewr Bamba.

Ymddeolodd Bamba o’r cae chwarae ar ddiwedd y tymor diwethaf, cyn dychwelyd i Gaerdydd fel is-reolwr gyda Lamouchi ym mis Ionawr.

Mae ganddo fe rywfaint o brofiad hyfforddi gyda Middlesbrough hefyd, ac yntau’n aelod o dîm hyfforddi Neil Warnock, cyn-reolwr Caerdydd, yn y fan honno.

Ymateb Caerdydd

Er gwaetha’r adroddiadau, mae’r clwb yn mynnu nad ydyn nhw wedi dewis olynydd i Sabri Lamouchi eto, ac maen nhw wedi wfftio’r sïon fod Sol Bamba wedi cael cynnig y swydd.

Ond maen nhw’n dweud eu bod nhw’n awyddus i benodi rhywun yn fuan, a bod trafodaethau ar y gweill gyda phedwar neu bump o ymgeiswyr posib.

Ymhlith yr enwau sydd wedi cael eu crybwyll mae’r Cymro Nathan Jones, cyn-reolwr Southampton a Luton.