Mae adroddiadau bod Russell Martin, rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, ymhlith y ffefrynnau ar gyfer swydd rheolwr Southampton.

Mae Tony Mowbray, rheolwr Sunderland, yn enw arall sydd wedi cael ei grybwyll i olynu Ruben Selles, sydd wedi bod yn rheolwr dros dro ers mis Chwefror, pan gafodd y Cymro Nathan Jones ei ddiswyddo.

Bydd Southampton yn chwarae yn y Bencampwriaeth y tymor nesaf, ar ôl iddyn nhw fethu ag osgoi’r gwymp o Uwch Gynghrair Lloegr.

Yn ôl y sôn, bydd Southampton yn gofyn i ymgeiswyr enwi chwaraewyr i’w denu i’r clwb pe baen nhw’n cael eu penodi.

Mae gan Russell Martin flwyddyn yn weddill o’i gytundeb gyda’r Elyrch, ond mae e eisoes wedi denu sylw Caerlŷr yn dilyn diswyddo cyn-reolwr Abertawe, Brendan Rodgers, a’i hen glwb Norwich hefyd.

Mae lle i gredu ei fod e’n hedfan i’r Unol Daleithiau i drafod ei ddyfodol gyda’r perchnogion, ar ôl dweud yn gyhoeddus ei fod e’n awyddus i gael sicrwydd y byddan nhw’n buddsoddi mewn chwaraewyr newydd cyn dechrau’r tymor nesaf.