Bydd llygaid y byd criced ar gêm Bencampwriaeth Morgannwg yn erbyn Sussex yn Hove (dydd Iau, Mai 18), wrth i ddau o fatwyr gorau’r byd herio’i gilydd cyn bod yn gyd-chwaraewyr i Awstralia yng Nghyfres y Lludw.

Hon fydd y gêm pedwar diwrnod olaf cyn dechrau’r cystadlaethau undydd, ac fe fydd yn gyfle i weld Marnus Labuschagne, batiwr tramor Morgannwg, yn herio Steve Smith, cyn-gapten Awstralia sy’n treulio cyfnod byr yn chwarae i Sussex cyn y gyfres fawr yn erbyn Lloegr.

Bydd Awstraliad arall, y bowliwr cyflym Michael Neser, yn gobeithio perfformio’n ddigon da i selio’i le yng ngharfan Awstralia ar gyfer dechrau’r gyfres, yn dilyn y newyddion ei fod e wedi ymuno â’r garfan baratoadol cyn bod yn aelod o’r garfan lawn yn ail hanner y gyfres.

Gydag un o uchafbwyntiau’r calendr criced rhyngwladol ar y gorwel, mae’n siŵr y bydd y cyfryngau o bedwar ban yn cadw llygad ar yr ornest hon.

Wedi’r cyfan, mae’r diolch i Steve Smith a’i gyfergyd yn 2019 fod Marnus Labuschagne wedi camu i’r llwyfan rhyngwladol, ac yntau’n eilydd cyfergyd cyntaf erioed y gamp, ac fe aeth y batiwr ifanc yn ei flaen i ennill gwobrau lu a dod yn un o fatwyr gorau’r byd mewn cyfnod byr.

Mae Morgannwg yn mynd i mewn i’r gêm yn dilyn buddugoliaeth swmpus o ddeg wiced dros Swydd Gaerwrangon yr wythnos ddiwethaf, y tro cyntaf iddyn nhw ennill y tymor hwn.

Mae Labuschagne wedi sgorio 9,913 o rediadau mewn gemau dosbarth cyntaf yn ystod ei yrfa, tra bod gan Smith gyfanswm o 13,325.

Bydd Morgannwg heb eu capten David Lloyd, sydd wedi anafu llinyn y gâr, ac fe fydd Kiran Carlson yn arwain y tîm yn ei absenoldeb.

Daw’r chwaraewr amryddawn Andy Gorvin i mewn i’r garfan am y tro cyntaf eleni, tra bod disgwyl i chwaraewr amryddawn arall, Zain ul Hassan, chwarae i’r sir am y tro cyntaf erioed yn dilyn perfformiadau campus i’r ail dîm.

O safbwynt Sussex, mae Tom Haines ac Ollie Robinson yn dychwelyd, tra bod Steven Finn a Jofra Archer allan ag anafiadau hirdymor.

Mae Morgannwg yn bedwerydd yn yr ail adran, tra bod Sussex yn ail.

Ansicrwydd ynghylch dyfodol Michael Neser

Roedd Morgannwg wedi bod yn paratoi i golli Michael Neser yn ddiweddarach yn y tymor, ac yntau heb gael ei ddewis ar gyfer dwy gêm gynta’r Lludw.

Ond mae adroddiadau yn Awstralia yr wythnos hon yn awgrymu bod y sefyllfa honno wedi newid yn sgil nifer o anafiadau yn y garfan, a bod Neser wrth gefn rhag ofn y bydd ei angen ar gyfer dwy gêm brawf yn erbyn India a dwy gêm gynta’r Lludw fis nesaf.

Mae disgwyl i Forgannwg drafod y sefyllfa mewn da bryd rhag ofn bod angen chwilio am chwaraewr tramor arall yn ei le.

Mae Neser eisoes wedi creu argraff y tymor hwn yng nghrys Morgannwg, gyda saith wiced am 32 a hatric yn erbyn Swydd Efrog, a sgôr o 86 gyda’r bat a phedair wiced yn erbyn Swydd Gaerwrangon.

Mae Colin Ingram wedi’i gofrestru gan Forgannwg i gymryd lle Labuschagne, ond roedd disgwyl y byddai Neser ar gael ar gyfer y gemau ugain pelawd hefyd.

Tra bod Matthew Maynard, prif hyfforddwr Morgannwg, yn dweud bod trafodaethau ar y gweill gyda’r Cyfarwyddwr Criced Mark Wallace, mae’n dymuno’n dda i Neser gan obeithio y bydd yn ychwanegu at ei ddau gap dros ei wlad.

“Os ydan ni’n ei golli fo, rydan ni’n dymuno’r gorau iddo fo, a gobeithio y caiff Marnus Labuschagne ganrediadau, bod Ness yn cael pum wiced, ond fod Lloegr yn ennill o bump i ddim!” meddai wrth y BBC.

Wrth drafod y frwydr rhwng Labuschagne a Smith, dywed Maynard fod hynny’n “wych i’r gêm sirol”.

“Mae hefyd yn wych i’r gêm sirol pan fo gennoch chi fatiwr prawf gorau’r byd a rhywun [Smith] sydd wedi bod y gorau ac sy’n dal i fod yn chwaraewr anhygoel.

“Maen nhw ochr yn ochr â Pujara a Michael Neser, a’u doniau ifainc disglair yn erbyn ein [carfan] ychydig yn hŷn, ond efo un neu ddau sydd heb chwarae cymaint â hynny o griced dosbarth cyntaf.”

Yn ôl Michael Neser, dydy e ddim wedi clywed gan ddewiswyr Awstralia, ond mae’n dweud ei fod “yn barod i fynd” pe bai’n derbyn yr alwad.

“Dw i wedi bod yn chwarae tipyn o griced felly dw i’n teimlo fy mod i mewn lle da yn feddyliol ac yn gorfforol hefyd,” meddai.

“Byddai’n anhygoel [derbyn yr alwad i gynrychioli Awstralia], ond alla i ddim edrych yn rhy bell ymlaen.”

Ond un sy’n credu ei fod e’n haeddu’r alwad yw Timm van der Gugten, bowliwr cyflym Morgannwg a’r Iseldiroedd, sy’n enedigol o Awstralia.

“Byddai hynny’n anhygoel i Ness, mae e wedi cael 24 mis anghredadwy,” meddai.

“Cafodd e dymor da iawn yma y llynedd, tymor anhygoel yn Awstralia ac mae e wedi dechrau’n dda eto yma gyda’r bat a’r bêl.

“Ces i eithaf syndod pan gafodd ei adael allan o’r garfan gyntaf honno gan Awstralia, ond dw i’n credu y bydd e’n chwarae rhyw ran yn y Lludw, ac mae’n haeddu hynny’n fawr iawn.”

‘Rhythm’

Wrth droi ei sylw at yr ornest yn erbyn Sussex, mae Matthew Maynard yn teimlo bod Morgannwg wedi canfod “rhythm” yn ddiweddar.

“Mae hynny’n wych i’w weld,” meddai.

“Mae’r grŵp bowlio’n tanio’n hyfryd rŵan.

“Fel grŵp batio, rydan ni’n llwyddo i gael rhediadau ar y bwrdd, felly rydan ni’n hapus iawn.

“Pe na bai’r tywydd wedi tarfu yn Swydd Efrog, mi fysan ni wedi ennill dwy gêm.

“Rydan ni’n gwybod lle fydd y penawdau yr wythnos hon, ond mae yna ugain o chwaraewyr eraill ar y cae.

“Fodd bynnag, mae gweld y goreuon sydd gan y gêm i’w gynnig yn wych i griced sirol ar y cyfan.”

Gemau’r gorffennol

Ar drothwy’r gêm hon, mae gan Timm van der Gugten 28 o wicedi wrth arwain yr ymosod – dim ond Chris Rushworth o Swydd Warwick sydd â mwy (30) y tymor hwn.

Morgannwg oedd yn fuddugol yn erbyn Sussex yng Nghaerdydd yn 2022, a hynny o bum wiced.

Ond prin yw’r llwyddiant gafodd Morgannwg yn Hove dros y blynyddoedd, ac maen nhw heb fuddugoliaeth ar y cae ar lan y môr yn ne-ddwyrain Lloegr ers 1975.

Yn 2018, daeth yr ornest i ben o fewn deuddydd wrth i’r sir Gymreig gael eu bowlio allan am 85 ac 88 mewn gêm fydd yn aros yn hir yn y cof am y rhesymau anghywir.

Roedd tipyn o welliant y flwyddyn ganlynol, serch hynny, wrth i Labuschagne ac Awstraliad arall, Nick Selman, adeiladu record o bartneriaeth wrth sgorio 291 mewn 75.2 o belawdau mewn gêm gyfartal, gyda Labuschagne yn sgorio 182, ei sgôr gorau erioed ar y pryd.

Daeth yr ornest yn Hove yn 2021 i ben yn gyfartal hefyd, gyda Ben Brown, cyn-gapten Sussex, yn taro canred heb fod allan.

Daeth y gêm y tymor diwethaf i ben yn gyfartal hefyd er i Forgannwg orfodi Sussex i ganlyn ymlaen.

Carfan Sussex: T Alsop, J Carson, O Carter, T Clark, J Coles, H Crocombe, T Haines, F Hudson-Prentice, S Hunt, A Karvelas, A Orr, C Pujara (capten), O Robinson, S Smith

Carfan Morgannwg: K Carlson (capten), B Root, J Harris, A Gorvin, S Northeast, A Salter, Zain ul Hassan, M Neser, M Labuschagne, J McIlroy, C Cooke, T van der Gugten, E Byrom

Sgorfwrdd