Cipiodd Jonny Clayton, y Cymro Cymraeg o Bontyberem, y lle olaf yng ngemau ail gyfle’r Uwch Gynghrair Dartiau, wrth i Gerwyn Price golli yn rownd derfynol noson ola’r gynghrair.

Dimitri van den Bergh o Wlad Belg enillodd y tlws olaf, gyda buddugoliaeth o 6-5 dros i Price ar ddiwedd gornest gyffrous aeth i’r cymal olaf un, gyda’r enillydd yn torri tafliad Price.

Daeth hyn wrth i’r Cymro lygadu pumed tlws nosweithiol yn y gynghrair, ac fe allai fod wedi colli’n gynt oni bai am gymal deuddeg dart yn y cymal olaf ond un i unioni’r sgôr, 5-5.

Price yw’r pumed chwaraewr yn hanes yr Uwch Gynghrair i orffen ar frig y gynghrair, a hynny ar ddiwedd ei nawfed ffeinal eleni.

Yn gynharach yn y noson, fe gurodd Price yr Albanwr Peter Wright o 6-2.

Collodd Clayton o 6-1 yn erbyn Nathan Aspinall cyn i’r Sais wynebu Price yn y rownd gyn-derfynol a cholli o 6-3.

Roedd Price chwe phwynt ar y blaen i Michael Smith yn y gynghrair ar ddiwedd y noson, tra bod Clayton wedi gorffen yn bedwerydd.

Yn ymuno â Price a Clayton yn y gemau ail gyfle fydd Michael Smith a Michael van Gerwen, sydd ag anaf i’w ysgwydd oedd wedi ei orfodi i adael y gystadleuaeth yn gynnar neithiwr (nos Iau, Mai 18).

Bydd y gemau ail gyfle’n cael eu cynnal yn yr O2 yn Llundain yr wythnos nesaf, wrth i Clayton a Price fynd ben-ben yn y gobaith o ennill £275,000.