Daeth cyhoeddiad annisgwyl fod Justin Tipuric yn ymddeol o’r byd rygbi ryngwladol.
Daw hyn er iddo gael ei enwi yng ngharfan baratoadol Cymru ar gyfer Cwpan y Byd yn ddiweddar.
Mae’r blaenasgellwr 33 oed, sy’n chwarae i ranbarth y Gweilch, wedi ennill 93 o gapiau dros ei wlad.
“Yn ystod y cyfnod rhwng tymhorau, dw i wedi cael amser i fyfyrio ar fy ngyrfa ac mae hi’n ymddangos fel yr adeg iawn i gamu i ffwrdd o rygbi ryngwladol,” meddai ar y cyfryngau cymdeithasol.
“Bu’n fraint cael gwisgo crys Cymru a chael cynifer o atgofion gwych.
“Hoffwn ddiolch i’r holl chwaraewyr a hyfforddwyr dw i wedi bod yn ddigon ffodus i gydweithio â nhw dros y blynyddoedd, ac am y gefnogaeth hyfryd ges i gan y cyhoedd yng Nghymru.
“Dw i’n edrych ymlaen at dreulio mwy o amser gartref a rhoi fy holl egni i chwarae i fy rhanbarth cartref, y Gweilch.”