Yn dilyn ymddeoliad Justin Tipuric o rygbi ryngwladol gyda Chymru, daeth cadarnhad bellach o ymddeoliad cyn-gapten arall, Alun Wyn Jones, hefyd.
Enillodd y clo 37 oed 170 o gapiau rhyngwladol – does neb wedi ennill mwy yn hanes rygbi Cymru a’r Llewod.
Roedd Jones a Tipuric, ill dau, wedi’u cynnwys yng ngharfan baratoadol Cymru ar gyfer Cwpan y Byd yn ddiweddarach eleni.
Daeth cap cyntaf Jones yn erbyn yr Ariannin yn 2006, ac mae e wedi ennill 158 o gapiau dros ei wlad, a 12 dros y Llewod dros bedair taith.
Roedd yn gapten ar y Llewod yn Ne Affrica yn 2021, gan arwain y tîm yn y prawf dyngedfennol yn erbyn Awstralia yn 2013 hefyd.
Arweiniodd e Gymru 52 o weithiau, ac roedd yn gapten ar y tîm enillodd y Gamp Lawn yn 2019 pan gafodd ei enwi’n Chwaraewr Gorau’r Twrnament.
Enillodd e dair Camp Lawn a phum tlws Chwe Gwlad yn ystod ei yrfa.
Dywedodd iddo benderfynu ymddeol “ar ôl trafodaeth barhaus â’r staff hyfforddi ac Undeb Rygbi Cymru”, a’i fod “yn edrych yn ôl ar atgofion arbennig ar ôl 17 mlynedd gyda mawrion Cymru a mawrion Cymru’r dyfodol”.
Talodd e deyrnged i’r Gweilch ac i glybiau’r Mwmbwls a Bon-y-maen lle gwnaeth e feithrin ei angerdd a’i sgiliau.