Sgoriodd tîm criced Morgannwg 737 – y cyfanswm ail fatiad uchaf erioed yn hanes Pencampwriaeth y Siroedd – wrth i’w gêm yn erbyn Sussex yn Hove orffen yn gyfartal.
Roedd y sir Gymreig ar ei hôl hi o 358 ar ddiwedd y batiad cyntaf, ar ôl cael eu bowlio allan am 123, ond fe lwyddon nhw i daro’n ôl yn erbyn uned fowlio Sussex oedd wedi gorfod ymdopi heb Ollie Robinson oherwydd anaf.
Tarodd tri batiwr Morgannwg ganred yn y batiad – Marnus Labuschagne 138 yn ei fatiad olaf cyn ymuno ag Awstralia ar gyfer Cyfres y Lludw, Michael Neser gyda 123, ei sgôr gorau erioed, a Kiran Carlson 192 oedd wedi trechu ei sgôr gorau erioed yntau o un rhediad.
Mae’r canlyniad yn golygu bod y ddau dîm yn ddi-guro yn yr ail adran ar ôl chwe gêm, wrth iddyn nhw ddechrau troi eu sylw at y gemau ugain pelawd, gyda Morgannwg yn teithio i Fryste nos Wener (Mai 26) i herio Swydd Gaerloyw.
Manylion
Dechreuodd Morgannwg y diwrnod olaf ar 499 am bump, gyda blaenoriaeth o 141 gyda’r capten dros dro Carlson heb fod allan ar 187 wrth arwain y tîm yn absenoldeb ei gyd-Gymro David Lloyd sydd wedi anafu llinyn y gâr.
Collodd y capten ei wiced yn y seithfed pelawd wrth yrru’r bêl yn ôl at y bowliwr Ari Karvelas. Daeth ei fatiad i ben ar ôl wynebu 278 o belenni, gan daro 18 pedwar a dwy chwech.
Erbyn hynny, roedd Morgannwg yn 510 am chwech a phenderfynodd Sussex beidio cymryd y bêl newydd cyn cinio, wrth i’r troellwr coes achlysurol, a chyn-gapten Awstralia, Steve Smith droi ei fraich drosodd ben draw’r llain i droellwr achlysurol arall, James Coles.
Roedd hi eisoes yn ymddangos bod y ddau dîm wedi rhoi’r ffidil yn y to o ran y fuddugoliaeth, felly, gyda Morgannwg yn 603 am saith erbyn amser cinio, oedd yn golygu blaenoriaeth o 245 a’r ymwelwyr yn penderfynu peidio cau eu batiad.
Erbyn hynny, roedd Morgannwg eisoes wedi sicrhau eu cyfanswm ail fatiad uchaf erioed, gan guro eu 577 am bedair yn erbyn Swydd Gaerloyw yng Nghasnewydd yn 1939, pan darodd Wally Hammond 302 gydag Emrys Davies yn taro 287 heb fod allan.
Roedd Morgannwg yn 623 am wyth pan fachodd Timm van der Gugten at y wicedwr Oli Carter oddi ar fowlio Karvelas, ac fe barhaodd Neser i gosbi bowlwyr Sussex wrth gyrraedd ei ganred gydag ergyd chwech oddi ar fowlio’i gydwladwr Smith.
Daeth y nawfed wiced pan gafodd James Harris ei ddal yn bachu pelen lac gan Smith at yr eilydd o faeswr Sean Hunt ar y ffin, a hwnnw’n cipio chwip o ddaliad uchel gan ddangos ei sgiliau syrcas wrth jyglo’r bêl.
Roedd Morgannwg yn 730 am naw erbyn amser te, a daeth batiad Morgannwg i ben pan gipiodd Smith wiced Neser, a bu’n rhaid i Sussex wynebu pelawd gan Marnus Labuschagne cyn i’r ornest ddod i ben gyda’r Saeson yn un heb golli wiced.
Colli cyfle?
Yn ôl Matthew Maynard, prif hyfforddwr Morgannwg, pe bai’r bartneriaeth allweddol rhwng Marnus Labuschagne a Kiran Carlson wedi para’n hirach, gallai Morgannwg fod wedi cwrso buddugoliaeth.
“Roedd yn rhaid i ni gyrraedd man lle’r oedd tua 40 i 45 o belawdau’n weddill er mwyn diogelu’r gêm, oherwydd roeddan ni’n gwybod wrth gwrso nod fach, mi allen nhw fod wedi mynd ar [gyfradd o] saith y belawd,” meddai.
“Mae gynnon nhw restr fatio gref iawn, efo chwaraewyr ifainc talentog iawn – ac ambell chwaraewr tramor da hefyd!
“Felly dw i wrth fy modd ein bod ni wedi llwyddo i ddangos dycnwch a brwydro i lawr y rhestr, oedd yn rhyfeddol.
“Pe bai’r bartneriaeth rhwng Marnus a Kiran wedi para’n hirach, mi allen ni fod wedi chwarae ychydig yn fwy rhydd, allai fod wedi ein galluogi ni [i gau’r batiad].
“Ond doeddan ni byth yn ddiogel tan yn eithaf hwyr yn y dydd.
“Arhosodd y llain yn dda. Roedd hi bob amser am fod yn anodd eu bowlio nhw allan [yn y batiad cyntaf].
“Ond roeddwn i’n falch iawn o’r dull amddiffynnol, a thorri’r record hefyd.
“Bysa hi wedi bod yn braf cael dwy fuddugoliaeth yn hytrach nag un ar ôl chwe [gêm].
“Bysa hynny wedi bod yn fwy haeddiannol.
“Dw i’n meddwl y bydd wicedi’n dod yn wicedi ar gyfer canlyniadau erbyn diwedd y tymor.
“Fedra i ei weld o’n mynd yn ôl i gau pen y mwdwl ar gemau mewn dau neu dri diwrnod, ac rydan ni wedi gweld gormod o hynny dros y deng mlynedd ddwytha.”