Mae Tom Abell a Tammy Beaumont wedi’u penodi’n gapteniaid tîm criced y Tân Cymreig ar gyfer cystadleuaeth ddinesig y Can Pelen eleni.
Mae Beaumont yn parhau yn ei rôl gyda thîm y merched, tra bod Abell yn wyneb newydd ar ôl ymuno o Birmingham Phoenix.
Dywed Abell iddo “neidio ar y cyfle” i weithio â’r prif hyfforddwr Mike Hussey, sydd ar fin ymgymryd â’r rôl am y tro cyntaf.
“Dw i wir wedi cyffroi gan yr her sydd o’n blaenau ni, ac rydyn ni’n dau [Abell a Hussey] yn awyddus iawn i ddod â rhywfaint o lwyddiant i’r Tân Cymreig,” meddai.
“Fe wnaethon ni waith gwych yn y drafft, ac mae am ddod â mwynhad cael arwain y grŵp hwn o chwaraewyr.”
Mae’r Tân Cymreig wedi denu Sophia Dunkley, Shabnim Ismail a Freya Davies i dîm y merched eleni hefyd.
“Mae’n wych cael ychwanegu Tom at ein grŵp arweinyddiaeth ochr yn ochr â Tammy,” meddai Mark Wallace, Rheolwr Criced y Tân Cymreig.
“Bydd eu profiad yn ein helpu ni i ddatblygu ein diwylliant oddi ar y cae, ac yn ein paratoi ni’n dda i gael dechrau gyda buddugoliaeth ar Awst 2 yng Ngerddi Sophia.”