Dywed yr Athro Laura McAllister iddi deimlo “braint enfawr, annisgwyl” pan glywodd ei bod hi am gael bod yn aelod o’r Orsedd.
Bydd yr academydd, gweinyddwr chwaraeon a chyn-gapten tîm pêl-droed Cymru, oedd wedi ennill 24 o gapiau dros ei gwlad, yn cael ei hurddo i’r Wisg Las yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd ym mis Awst am ei chyfraniad i’w meysydd arbenigedd.
Mae hi bellach yn Athro Polisi Cyhoeddus yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd, ac yn gyn-Athro Llywodraethiant Prifysgol Lerpwl.
Derbyniodd hi CBE yn 2016 am ei gwasanaeth i’r byd chwaraeon.
Mae hi’n aelod o Fwrdd y Sefydliad Materion Cymreig, a bu’n aelod o Fwrdd Stonewall rhwng 2012 a 2015.
Mae’n gadeirydd Oriel Enwogion Chwaraeon Cymru.
Daeth yn is-lywydd UEFA fis diwethaf, y fenyw gyntaf o Gymru i fod ar y pwyllgor.
‘Cefnogaeth pobol eraill’
“Mae’n fraint enfawr, a fi mor falch i gael yr anrhydedd,” meddai wrth golwg360.
“Mae’n annisgwyl, wrth gwrs, ond mae bod yn rhan o’r 50 o bobol sydd ar y rhestr yn anrhydedd fawr.
“I fi, mae’n cynrychioli lot o waith y timau fi’n gweithio gyda nhw yn y byd pêl-droed a’r byd academaidd hefyd, achos fi wastad yn dweud bo fi ddim yn gallu cyflawni na llwyddo mewn unrhyw faes heb gefnogaeth pobol eraill.
“Mae pobol yng Nghymdeithas Bêl-droed Cymru ac UEFA wedi gweithio mor galed gyda fi i sicrhau yr etholiad gyda UEFA, a hefyd gyda gwaith y Comisiwn Cyfansoddiadol.
“Mae wedi bod yn broses dda ond y peth pwysicaf yw bod y tîm yn gweithio mor galed i drio creu adroddiad terfynol sydd â phwysigrwydd sy’n para i Gymru.
“Heb waith caled Rowan Williams hefyd, fyddwn i ddim wedi gallu gwneud y gwaith yna.”
A hithau “wastad yn joio’r Eisteddfod”, dywed ei bod yn “ddigwyddiad unigryw ac yn rywbeth sy’n creu delwedd arbennig i Gymru ledled y byd”.
“Mae dwy ferch gyda ni, ac maen nhw’n cystadlu, ac yn cystadlu yn arbennig ar hyn o bryd yn Eisteddfod yr Urdd,” meddai.
“Maen nhw’n joio gwneud popeth, y dawnsio a’r celfyddydau ac yn y blaen, ond maen nhw dipyn bach rhy ifanc i wneud pethau ar hyn o bryd yn y Brifwyl ond fel arfer, fi yn mynd.
“Aethon ni i Dregaron flwyddyn diwethaf a chael diwrnod braf yn yr haul a siarad am waith y Comisiwn yno.”
‘Estyn allan i gynulleidfaoedd gwahanol’
Nos Fawrth nesaf (Mai 30), bydd yr Athro Laura McAllister yn ymuno â Dr Rowan Williams, cyn-Archesgob Caergaint, a Miguela Gonzalez, Pennaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant Abcam, mewn sesiwn arbennig yng Ngŵyl y Gelli i drafod Comisiwn y Cyfansoddiad.
Bydd Auriol Miller, Cyfarwyddwr y Sefydliad Materion Cymru, yn arwain y sesiwn ‘Wales: Independence and other options’ am 7 o’r gloch ar Lwyfan Gwy (Wye Stage), wrth i’r panel drafod yr heriau i ddyfodol y Deyrnas Unedig, gwaith y Comisiwn a’r opsiynau sydd ar gael ar gyfer y dyfodol i gryfhau democratiaeth yng Nghymru.
Yn ôl Laura McAllister, mae’n bwysig i’r Comisiwn estyn allan i gynulleidfaoedd gwahanol er mwyn creu sgwrs genedlaethol.
“Fel arfer, mae torf wahanol yn yr ŵyl yn Hay, felly mae yna siawns i ni ddweud wrth y gynulleidfa beth ydyn ni wedi gwneud erbyn hyn,” meddai.
Mae’r Comisiwn eisoes wedi llunio adroddiad interim ddiwedd y llynedd, ac maen nhw bellach yn barod ar gyfer y cam nesaf, meddai.
“Rydyn ni’n gwneud deep dives mewn i’r tri opsiwn, sef datganoli entrenched fel maen nhw’n dweud, safbwyntiau ffederalistig, ac annibyniaeth.
“Mae’n siawns i ni gyflawni ein gwaith a gwrando hefyd ar bobol sy’n sicr â barn wahanol i bobol rydyn ni’n siarad â nhw fel arfer.
“Mae hi mor bwysig i ni i fynd allan a siarad â phobol Cymru, a phobol sy’n credu yng Nghymru, a phobol sydd â barn wahanol am ddyfodol Cymru.
“Ac felly, mae’n bwysig i ni wneud pethau mewn eisteddfodau fel Eisteddfod yr Urdd lawr yn Llanymddyfri a’r Eisteddfod Genedlaethol.
“Ond ar y llaw arall, mae digwyddiadau fel Gŵyl y Gelli yn bwysig hefyd.
“Rydyn ni’n trio ehangu’r ymatebion a defnyddio’r sgyrsiau ledled Cymru rydyn ni’n eu cael fel rhan o ‘Dweud eich Dweud’ i gyfrannu at yr adroddiad terfynol.”
‘Fi eisiau gwneud gwahaniaeth’
Er mai mis yn unig sydd ers iddi gael ei hethol yn is-lywydd gyda UEFA fel y person cyntaf o Gymru i gyrraedd Bwrdd y corff llywodraethu, mae hi’n dweud ei bod hi’n awyddus i “wneud gwahaniaeth”, ac nid dim ond yng ngêm y merched.
“Fel fi wastad yn dweud, y peth pwysig nawr yw creu rhyw fath o gyfraniad,” meddai.
“Does dim lot o bwynt bod ar fyrddau heb wneud pethau.
“Fi eisiau gwneud gwahaniaeth i’r byd pêl-droed, nid jyst i bêl-droed merched ond i bêl-droed yn gyffredinol.
“Yn bendant, mae gen i lot o brofiad yn gweithio ym myd chwaraeon, yn arbennig ar lefel strategol, a nawr yn barod fi wedi bod yn rhan o’r Steering Group Strategol ar gyfer strategaeth newydd UEFA o’r flwyddyn nesaf ymlaen.
“Mae hwnna’n waith mawr, wrth gwrs, achos mae’n ganolog i waith UEFA i newid y strategaeth a sicrhau bod gwaith UEFA dal o flaen y trends ym myd pêl-droed, so mae hwnna’n ddarn mawr o waith.
“A hefyd, fi’n gweithio gyda nhw ar y Gender Equality Working Group, ac eto mae hwnna’n bwnc sy’n agos at fy nghalon i.
“Hyd yn oed ar ôl mis, fi wedi cael profiad da erbyn hyn, ond wrth gwrs mae’r gwaith caled yn dal o flaen ni nawr.
“Mae wedi bod mor gyffrous a fi wedi cwrdd â lot o bobol ddiddorol, ac i fi y peth pwysicaf yw dangos bod Cymru’n genedl bêl-droed ac yn genedl browd sy’n gwneud camau massive nawr i ddatblygu gêm y merched, ac i sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru’n cael cyfle i chwarae pêl-droed.”
‘Cenedl fach sy’n cyflawni a llwyddo mewn meysydd gwahanol’
Wrth i Laura McAllister ymgyfarwyddo â’i rôl newydd, daeth y newyddion yr wythnos hon fod y Gymraes Cheryl Foster, un o’i chyd-chwaraewyr gyda thîm Cymru, wedi’i dewis i ddyfarnu rownd derfynol Cynghrair Pencampwyr y Merched eleni.
Bydd Barcelona yn herio Wolfsburg yn Eindhoven yn yr Iseldiroedd ar Fehefin 3.
Daw’r penodiad ar ôl iddi gael ei dewis i ddyfarnu yng Nghwpan y Byd yn Awstralia a Seland Newydd eleni, a blwyddyn ar ôl iddi dorri tir newydd yn yr Ewros fel y Gymraes gyntaf i ddyfarnu mewn cystadleuaeth ryngwladol fawr.
Enillodd hi 63 o gapiau dros Gymru rhwng 1997 a 2011.
Mae ei phenodiad yn “hwb mawr” i bêl-droed merched yng Nghymru, yn ôl Laura McAllister.
“Fi’n nabod Cheryl – Fozzy rydyn ni’n ei galw hi – o pan oedden ni’n chwarae gyda’n gilydd i Gymru,” meddai.
“Mae hi wedi creu gyrfa anhygoel fel dyfarnwr, ac mae’n mynd i fod yn anhygoel i weld rhywun o Gymru yng nghanol y cae yn Eindhoven yn y rownd derfynol.
“Maen nhw wedi gwerthu’r tocynnau i gyd, so mae dros 34,000 o bobol yn mynd i fod yno, a phawb yn gweld merch o ogledd Cymru’n reffari, ac mae hwnna’n massive i godi delwedd Cymru ar y llwyfan rhyngwladol.
“Nawr, gyda fi ar Exco a Cheryl yn gwneud mor dda – a phobol fel Sophie Ingle a Hayley Ladd yn chwarae reit ar frig y WSL yn Lloegr, a Jess Fishlock yn dal yn chwarae mor dda yn yr Unol Daleithiau – rydyn ni’n gallu dangos bod Cymru’n genedl eithaf bach ond ar y llaw arall yn cyflawni a llwyddo mewn meysydd gwahanol.
“Mae hwnna’n hwb mawr i ni gyd, fi’n meddwl.”