Mae un fydd yn cael ei dderbyn i’r Orsedd yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd eleni’n dweud bod llai o waith gwirfoddol yn digwydd yn yr oes sydd ohoni, ac nad yw pobol bob amser yn gwerthfawrogi’r ymrwymiad.

Cafodd enwau’r rhai fydd yn cael eu derbyn i’r Orsedd eleni eu cyhoeddi’r wythnos hon, ac mae golwg360 wedi bod yn siarad Alun Roberts o Gaernarfon, oedd yn un ohonyn nhw.

Bydd unigolion o wahanol feysydd yn derbyn clod am eu cyfraniad arbennig i Gymru, y Gymraeg a’u cymunedau yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Moduan dros yr haf.

Fe fydd y rhai sydd i’w derbyn i’r Orsedd yn cael eu hurddo’n ffurfiol ar Faes y Brifwyl fore Llun, Awst 7 a bore Gwener, Awst 11.

Bydd Alun Roberts yn derbyn y Wisg Las oherwydd, ers deng mlynedd ar hugain a mwy, mae’n ymgorfforiad o’r ysbryd cymunedol Cymreig ar ei orau, yn hyrwyddo a chefnogi gweithgareddau dyngarol, elusennol a diwylliannol yn y gymdeithas leol yn ei ffordd dawel ac ymarferol ei hun.

Mae ei ymrwymiad i’w gymuned yn ddiarhebol: o gefnogi gweithwyr ffatri Friction Dynamics i’w waith gyda Banc Bwyd Caernarfon, ac o brosiectau fel Porthi Pawb i’r fenter O Law i Law, mae ei gymorth a’i gefnogaeth yn allweddol i lwyddiant pob ymgyrch a phrosiect yn lleol.

‘Rhoi rhywbeth yn ôl i’r gymuned’

Mae Alun Roberts yn teimlo ei bod yn fraint fawr cael ei urddo i’r Orsedd, gan fod yr anrhydedd yn gydnabyddiaeth i Gymry Cymraeg am eu gwaith.

Mae wedi bod yn brysur iawn yn gwirfoddoli ers blynyddoedd maith, ac mae prosiect ar y gweill i glirio hen fynwent Llanbeblig, ymhlith mynwentydd eraill.

Dydy pobol ddim wastad yn sylweddoli bod pobol yn fodlon gweithio am ddim, meddai, er ei bod yn bleser iddo roi rhywbeth yn ôl i Gaernarfon.

“Mae’n anrhydedd o’r mwyaf fy mod am gael fy urddo i’r Orsedd,” meddai Alun Roberts wrth golwg360.

“Mae’n dangos diwylliant Cymru – yr unig beth sydd gennym ni, i ddweud y gwir, tan yn ddiweddar iawn i gydnabod Cymry Cymraeg am eu gwaith.

“Mae’n sicr yn braf cael cydnabyddiaeth am fy ngwaith.

“Yn sicr, mae rhywun yn gwneud gwaith yn y gymuned a ddim yn cael cydnabyddiaeth, er enghraifft mae yna bedwar ohonom ni, erbyn hyn rydym ni’n chwech, wedi bod yn clirio hen fynwent Llanbeblig.

“Rydym wrthi ar y bedwaredd flwyddyn rŵan.

“Dydyn ni heb orffen, ac mae yna ychydig o waith wedi bod yno.

“Mae gwaith gwirfoddol yn bwysig i mi, oherwydd mae’n rhoi rhywbeth yn ôl i’r gymdeithas.

“Mae Caernarfon wedi bod yn dda iawn i mi, a phethau eraill hefyd.

“Beth sy’n synnu rhywun, [ydi] fod rhai pobol ddim yn sylweddoli bod yna waith gwirfoddol, a hefyd ddim yn credu mewn gwaith gwirfoddol.

“Er enghraifft, yr Ŵyl Fwyd – ychydig bach roeddwn i’n gwneud – roedd rhai pobol yn meddwl bod y pwyllgor sy’n hynod o weithgar yn cael eu talu am wneud.

“Dydy o ddim yn registro gan bobol bod pobol yn fodlon gwneud gwaith am ddim.”

Gyrfa

Mwynhaodd Alun Roberts fod yn brifathro ar Ysgol y Gelli yng Nghaernarfon yn fawr iawn, a hynny oherwydd cwmni pobol.

Ond teimla fod gwaith papur wedi dod yn fwy o her i bobol sy’n gweithio yn y byd addysg yn yr oes sydd ohoni.

“Rwy’ wedi ymddeol ers chwarter canrif,” meddai.

“Roedd yr adeg honno ychydig yn wahanol i rŵan.

“Iesu mawr, y gwaith papur mae’r athrawon yma’n gorfod delio efo fo rŵan!

“Fyswn i ddim yn hoffi mynd ’nôl rŵan, ond roeddwn yn mwynhau cwmnïaeth rhieni, plant a staff yr ysgol.

“Gwnes i fwynhau yn arw iawn.”