Mae deuddeg o deitlau wedi cyrraedd rhestr fer Llyfr y Flwyddyn eleni, ac mae cyfle i ddarllenwyr bleidleisio am eu hoff gyfrol yng nghystadleuaeth Barn y Bobl.

Dros yr wythnosau nesaf, bydd golwg360 yn cael sgwrs gyda’r awduron ar y rhestr fer yn eu tro, er mwyn dod i wybod mwy amdanyn nhw a’u cyfrolau. Dyma sgwrs gyda Menna Elfyn, sydd wedi llwyddo i gyrraedd rhestr fer y categori Barddoniaeth gyda Tosturi.


Dywedwch ychydig wrthym ni am y llyfr os gwelwch yn dda

Mae’r teitl efallai’n cyfleu’r cynnwys – i fardd y tri pheth mwyaf yw ffydd, gobaith a thosturi! Yr olaf yw’r ymdeimlad sy’n cronni ynoch wrth ysgrifennu am bob mathau o brofiadau: colli chwaer a brawd, minnau yr olaf o’r teulu, y cyfnod clo, profiadau am y byd a’r betws, digrifwch ambell sefyllfa, a chwarae ar wahanol fesurau o’r wers rydd i’r englyn.

Beth oedd yr ysbrydoliaeth ar gyfer y gyfrol?

Gair mawr am brofiadau bychain! – Mae ysbrydoliaeth yn dod ymhellach i lawr y lein ond ceisio yn ddyddiol olchi’n lân mewn geiriau yr hyn sy’n ddifyr, yn fy mrifo hyd ddagrau, a bod yn dyst i ambell brofiad. Mae gwewyr y byd yn fy mlino’n ddyddiol. Un o ddywediadau ein teulu ni oedd ‘trugaredd sy’n gwybod’. A’r peidio â gwybod sy’n creu cerddi – daw o ryw ffynhonnell tu hwnt i’r hyn y medrwn yn hawdd ei ddeall.

Oes yna neges yn y llyfr?

Tosturio a chyffwrdd â rhywun yn rhywle sy’n darllen ambell gerdd gan ddweud ‘Ie, fel na oedd pethe’ neu ambell deimlad fod y byd yn dal yn llawn rhyfeddod. Hwyrach y daw rhyfeddu cyn tosturio – efeilliaid efallai?

Pa lyfr neu lyfrau sydd wedi dylanwadu fwyaf arnoch chi fel awdur?

T. Gwynn Jones oedd fy nghariad cyntaf – dysgais rai o’i gerddi ar fy nghof yn fy arddegau anodd, yna daeth Waldo i’m cysuro ond wedyn rwy’n gyson yn darganfod beirdd ar draws y byd sydd yn cyffro – un sy’n fytholwyrdd yw Wislawa Szymborska o wlad Pwyl – am ei doethineb a’i hiwmor arallfydol, ac mae darganfod beirdd newydd wastad fel agor potel o siampaen da, yn fyrlymau i gyd…

Gallwch ddarllen mwy am Tosturi a’r holl gyfrolau sydd wedi cyrraedd y rhestr fer, a phleidleisio dros eich ffefryn, yma:

Pleidlais Barn y Bobl: Llyfr y Flwyddyn 2023

Pleidleisiwch dros eich hoff gyfrol – y bleidlais yn cau ar Fehefin 23!