Cafodd enwau’r rhai fydd yn cael eu derbyn i’r orsedd eleni eu cyhoeddi’r wythnos hon, ac mae golwg360 wedi bod yn siarad gydag ambell un ohonynt.
Bydd unigolion o wahanol feysydd yn derbyn clod am eu cyfraniad arbennig i Gymru, y Gymraeg a’u cymunedau yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Moduan dros yr haf.
Fe fydd y rhai sydd i’w derbyn i’r Orsedd yn cael eu hurddo’n ffurfiol ar Faes y Brifwyl fore Llun, Awst 7 a bore Gwener, Awst 11.
Ymysg yr enwau cyfarwydd fydd yn cael eu hurddo eleni mae Anwen Butten, Aled Hughes, y Parchedicaf Andrew John, Laura McAllister a Geraint Lloyd.
Geraint Lloyd
Roedd Geraint Lloyd o Ledrod yn un o leisiau mwyaf adnabyddus Radio Cymru am flynyddoedd lawer. Dechreuodd ei yrfa gyda Radio Ceredigion, ac eleni ymunodd â gorsaf radio Môn FM.
Pan oedd yn ifanc, ralio a rasio oedd yn mynd â’i fryd; bu’n cynrychioli Cymru mewn rasys 4×4, ac mae’n aelod brwd o Glwb Glasrasio Teifi.
Mae’n un o gefnogwyr mwyaf selog y Ffermwyr Ifanc, ac yn 2017 cafodd ei ethol yn Llywydd Cenedlaethol y mudiad, anrhydedd a dderbyniodd gyda balchder.
Mae hefyd yn cefnogi Theatr Felin-fach, ac wedi perfformio droeon yn eu pantomeimiau enwog.
Doedd Geraint Lloyd ddim yn disgwyl cael ei urddo i’r Orsedd, ond mae’n ei weld yn anrhydedd fawr er nad yw’n ‘berson Steddfod’ mawr.
“Mae fe’n bach o syrpreis cael fy urddo i’r Orsedd,” meddai Geraint Lloyd wrth golwg360.
“Daeth llythyr trwy’r post, doeddwn ddim yn disgwyl dim byd. Mae’n anrhydedd.
“Fel mae pobol yn gwybod dydw i ddim yn foi Eisteddfod. Dw i’n mynd i’r Eisteddfod o bryd i’w gilydd.
“Dw i’n meddwl ei fod yn beth pwysig yma yng Nghymru i gadw’r iaith Gymraeg ar holl draddodiad sy’n mynd gyda fo. Dw i’n teimlo anrhydedd i fod yn rhan ohono fo. Bydd e’n brofiad a hanner, dw i’n siŵr.”
Glyn Tomos
Dwy ffactor sy’n gyrru Glyn Tomos o Gaernarfon, sef y Gymraeg a chyfiawnder cymdeithasol.
Tra’n fyfyriwr prifysgol ym Mangor, arweiniodd ymgyrch lwyddiannus i sefydlu UMCB (Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor) i warchod hawliau myfyrwyr Cymraeg.
Ar ddiwedd y 1970au, sefydlodd y cylchgrawn Sgrech er mwyn adlewyrchu’r sîn roc Gymraeg, a phan symudodd i Gaernarfon, aeth ati i sefydlu Papur Dre, papur bro a ddathlodd ei 200fed rhifyn eleni.
Mae Glyn Tomos yn ddiolchgar iawn am y gydnabyddiaeth ato, sy’n arwydd o gydnabyddiaeth at bawb sy’n gwneud gwaith gwirfoddol.
“Dw i’n teimlo bod cael fy urddo i’r Orsedd yn anrhydedd o’r mwyaf,” meddai Glyn Tomos wrth golwg360.
“Mae’n gydnabyddiaeth oes o wasanaeth. Hon ydy’r anrhydedd fwyaf gei di gan dy genedl dy hun. Dw i’n hynod ddiolchgar i’r Eisteddfod am y fath anrhydedd.
“Dydw i ddim yn un am seremonïau o unrhyw fath i ddweud y gwir. Maen nhw’n apelgar iawn ac mae nifer fawr o bobol ym mwynhau’r math yna o beth. Dw i’n ei weld yn fwy na’r seremoni ei hun.
“Beth sy’n bwysig ydy’r bobol sy’n cael ei hurddo am wasanaeth dros y Gymraeg a dros Gymru.
“Cydnabyddiaeth ydy o fwy na dim a dyna sy’n bwysig mewn ffordd, bod hynna’n digwydd. Mae’n braf cael cydnabyddiaeth.
“Yn fy achos i mae’r holl waith dw i wedi gwneud wedi bod yn hollol di-dâl ac yn wirfoddol dros hanner can mlynedd a mwy. Mae o wedi bod yn waith caled, ac mae wedi bod yn bleserus yr un pryd.
“Dw i eisiau diolch, diolch o waelod calon am yr anrhydedd. Dw i’n teimlo’i bod hi’n bwysig bod cyd- Gymry yn cael cydnabyddiaeth. Dw i’n gobeithio bod fi’n cael yr anrhydedd yma’n mynd rywfaint o’r ffordd i gydnabod y gwaith mae cannoedd o bobol eraill yn ei wneud hefyd.”
Ruth Wyn Williams
Yn wreiddiol o Abersoch, mae Ruth Wyn Williams, nawr o Fangor, wedi cyfrannu’n sylweddol at wella ansawdd gwasanaethau nyrsio anableddau dysgu yng Nghymru.
A hithau’n credu’n gryf mewn rhoi llais, urddas a chyfiawnder i aelodau mwyaf bregus cymdeithas, gweithiodd yn ddiflino i newid agweddau ymysg y cyhoedd, gan ddylanwadu’n arwyddocaol ar benderfyniadau polisi ac ysbrydoli llu o fyfyrwyr a staff ar draws y gwasanaeth iechyd.
“Doeddwn i ddim yn meddwl mai i fi oedd yr e-bost. Cefais yr e-bost, ac fe wnes i orfod ei darllen dwn i ddim faint o weithiau, roedd o’n beth rhyfedd iawn,” meddai wrth golwg360.
“Dw i’n meddwl ei fod yr anrhydedd uchaf fedri di gael, bod rhywun yn meddwl bod fy ngwaith bob dydd mor bwysig i gael ei Urddo.
“Dydy o ddim byd i wneud efo fi. Mae am y bobol efo’r anableddau dysgu a’r plant, pobol ifanc, yr unigolion efo anableddau dysgu dw i wedi bod yn gweithio efo nhw ar hyd fy ngyrfa, dros 30 mlynedd. Iddyn nhw mae hwn. Fyswn i ddim yma hebddyn nhw. Dyna sut dw i wedi edrych arni, ar ôl y sioc i ddechrau efo’i.
“Mae’r Eisteddfod wedi bod yn rhan o’m mywyd i erioed.
“I fi hon ydy’r anrhydedd fwyaf fedra unrhyw Gymro neu Gymraes gael. Dw i’n meddwl ei fod yn rhan annatod o’n diwylliant ni hefyd.
“Mae’n rhywbeth pwysig i ymfalchïo ynddo fo oherwydd maen nhw’n cydnabod pobol sydd wedi gwneud gwaith aruthrol yn ein cymuned.
“Mae yna feirdd a llenorion yna, ond mae yna nyrsys yna a ti’n meddwl: ‘Waw, yng nghanol yr holl bobol sy’n gwneud gwaith celfyddydol, mae yna ryw nyrs fach yn eu canol nhw i gyd’.”