Mae deuddeg o deitlau wedi cyrraedd rhestr fer Llyfr y Flwyddyn eleni, ac mae cyfle i ddarllenwyr bleidleisio am eu hoff gyfrol yng nghystadleuaeth Barn y Bobl.
Dros yr wythnosau nesaf, bydd golwg360 yn cael sgwrs gyda’r awduron ar y rhestr fer yn eu tro, er mwyn dod i wybod mwy amdanyn nhw a’u cyfrolau. Dyma sgwrs gyda Rhian Parry, sydd wedi llwyddo i gyrraedd rhestr fer y categori Ffeithiol Greadigol gyda Cerdded y Caeau.
Dywedwch ychydig wrthym ni am y llyfr os gwelwch yn dda…
Mae o’n llyfr sy’n trafod mân enwau yn y dirwedd, a chaeau’n arbennig. Mae llawer o enghreifftiau gyda lluniau a mapiau yn hen gwmwd Ardudwy, sef uned yn yr Oesoedd Canol sy’n cynnwys 14 plwyf. Mae hi’n ardal o ucheldir a thair aber. Mae hi’n ymestyn o Nantmor a Blaenau Ffestiniog yn y gogledd i lawr at y Bermo, ac o’r gorllewin yn Harlech hyd at gyrion pellaf plwyf Trawsfynydd. Mae hi’n llawer mwy o faint na’r pentref o’r enw Dyffryn Ardudwy.
Mae enwau Ardudwy yn gyfoethog iawn a heb newid cymaint â’r rhelyw o ardaloedd eraill. Mae’r llyfr yn trafod defnydd pobol o enwau yn y dirwedd, a sut i ddarllen eu hanes. Gellir defnyddio’r dull hwn mewn ardaloedd eraill yng Nghymru, fel mae hanes ffermydd a chaeau Glynebwy yn ei ddangos. Hefyd, mae pennod sy’n dangos sut i gasglu a chefnogi enwau eich milltir sgwâr a lle i ddod o hyd i ffynonellau cynnar o’r enwau.
Beth oedd yr ysbrydoliaeth ar gyfer y gyfrol?
Wn i ddim byd am ysbrydoliaeth, ond fy nghymhelliad i oedd rhannu’r ymchwil a’r hyn a wnes i ei ddarganfod am fân enwau lleoedd a’r hyn y maent yn ei ddatgelu i ni am ein hanes a’n diwylliant. Roeddwn yn teimlo bod angen am lyfr sy’n egluro sut mae hi’n bosib defnyddio enwau i greu darlun o sut oedd ein cyndeidiau yn defnyddio’r tir ar wahanol gyfnodau hanesyddol, a thrwy hyn rannu dealltwriaeth o bwysigrwydd mân enwau yn y dirwedd heddiw. Gobeithio bydd y llyfr o werth i’r rhai sydd â diddordeb mewn enwau ac am ddysgu mwy. Mae’n ffordd i mi geisio talu’n ôl am y cymorth a’r gefnogaeth gefais gan nifer o bobol leol, ac yn enwedig y gefnogaeth gefais gan yr Athro Gwyn Thomas.
Yn ail, mae’n debyg, mae’n amserol. Mewn cyfnod pan fo’n henwau yn cael eu newid ar fympwy a hefyd pan fo pobol yn fwy ymwybodol o bwysigrwydd enwau a’r angen am eu gwarchod. Maen nhw’n hynafol iawn, 600 oed a mwy, ac yn rhan o hunaniaeth a chymeriad bro a ninnau ein hunain. Maent yn ein cysylltu â’n milltir sgwâr, ac yn rhan annatod o’n Cymreictod.
Oes yna neges yn y llyfr?
Oes, efallai hyd at syrffed! Mae angen deddf i warchod enwau fel sy’n gwarchod adeiladau hanesyddol, henebion, ac ystlumod. Mae cynghorau sir yn hollol abl i’w goruchwylio gyda chyllid i’w cefnogi, ac mae rhai wedi cychwyn eisoes.
Yn ail, mae angen annog pobol i fynd ati i gasglu enwau a’u cofnodi ar fap digidol Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru a’u defnyddio.
Pa lyfr neu lyfrau sydd wedi dylanwadu fwyaf arnoch chi fel awdur?
Mae cyfrol wych a olygwyd gan J Beverley Smith a Llinos Beverley Smith yn glasur i roi cefndir hanesyddol Ardudwy. Yr hyn wnaeth gefnogi fy argyhoeddiad bod cariad at fro neu filltir sgwâr a’i henwau yn gnewyllyn yr emosiwn a deimlwn dros amddiffyn enwau oedd y ddau am yr Alban a’r Ynysoedd – sef Owning the Earth gan Andro Linklater a Love of Country: A Hebridean Journey gan Madeleine Bunting.
Gallwch ddarllen mwy am Cerdded y Caeau a’r holl gyfrolau sydd wedi cyrraedd y rhestr fer, a phleidleisio dros eich ffefryn, yma: