Dychwelodd Gŵyl Fach y Fro i Ynys y Barri ddydd Sadwrn (Mai 20), gydag artistiaid fel Los Blancos, N’Famady Kouyate, Tara Bandito a Gwilym yn diddanu’r dorf ar lan y môr.

Yn dilyn llwyddiant yr ŵyl y llynedd, pan aeth dros 8,000 i ymuno â’r hwyl, croesawodd y digwyddiad Hana Lili unwaith eto, cyn iddi fynd yn ei blaen i gefnogi Coldplay yng Nghaerdydd ar eu taith fyd eang fis nesaf.

Bu Kitsch n Synch yn perfformio gwaith comisiwn newydd ar y thema Barrybados hefyd, a dychwelodd y cwmni dawnsio Qwerin i’r ŵyl unwaith eto.

Ynghyd â hynny, roedd gweithgareddau chwaraeon, crefftwyr, stondinau bwyd lleol a gweithgareddau i’r plant yn cael eu cynnal ar y traeth.

Dyma ddetholiad o luniau gan Meirion Lewis:

Roedd criw dawnsio cyfoes, Qwerin, yn perfformio yng Ngŵyl Fach y Fro. Maen nhw’n cyfuno dawnsio gwerin gydag ymdeimlad o fywyd nos cwiar, a hynny mewn dillad sy’n rhoi tro yng nghynffon yr hen wisgoedd traddodiadol Cymreig.

 

Roedd nifer o ysgolion lleol yn perfformio ar lwyfan Glanfa Gwynfor yn ystod y dydd.

 

… tra bo’r dorf yn mwynhau’r heulwen a’r gerddoriaeth fyw ger y traeth.

 

Ymunodd y rapiwr, Sage Todz, â Lloyd + Dom James ar y prif lwyfan.

 

… A dyma fe’n perfformio ar ei ben ei hun.

 

Un arall fu’n diddanu’r dorf yw Hana Lili, fydd yn cefnogi Coldplay yn Stadiwm Principality ddechrau mis nesaf

 

Mae N’famady Kouyaté, y cerddor sy’n cyfuno bîts ac alawon Affricanaidd gyda’r iaith Gymraeg, yn prysur gwneud enw iddo’i hun, ac fe fydd yn perfformio yn Glastonbury fel un o’u sêr newydd disglair eleni.

 

Fe fu Tara Bandito yn perfformio rhai o’i chaneuon newydd oddi ar ei halbwm diweddaraf

 

Daeth Hana Lili yn ôl i ymuno gyda Gwilym i berfformio eu sengl, ‘cynbohir’.

 

Roedd Dagrau Tân ymhlith y bandiau berfformiodd ar y prif lwyfan.

 

Bu’r band o’r gorllewin, Los Blancos, hefyd yn perfformio yn yr ŵyl.

 

Fe wnaeth y gantores Gymreig-Iranaidd, Parisa Fouladi a’i band swyno yn yr heulwen.

 

Gwilym oedd yn cloi’r noson ar y llwyfan.

 

Y tu hwnt i’r llwyfan, roedd y gweithgareddau eraill oedd ar gael yn cynnwys sgiliau syrcas.