Mae cantores o Gymru wedi’i dewis i gefnogi’r band Coldplay yn ystod eu taith dros y byd.
Bydd yr artist pop-indi Hana Lili yn ymuno â’r band CHVRCHES i gefnogi Coldplay yn Stadiwm Principality ar Fehefin 6 a 7.
Dyma fydd y dorf fwyaf iddi chwarae ar eu cyfer, a bydd hi’n cynnwys y Gymraeg yn ei set.
‘Lwcus’ i gael gigio yng Nghaerdydd i adeiladu’r band
“Dw i wedi bod yn gigio ers blynyddoedd mewn amryw o leoliadau o amgylch Cymru a thu hwnt,” meddai’r artist.
“Mae’r lleoliadau yna wedi amrywio o draeth Mwnt, Castell Caerdydd, Tafwyl, Gŵyl Fach y Fro i’r O2 yn Llundain.
“Ond heb os ac oni bai hwn fydd y gynulleidfa fwyaf!”
“Fe fydd yn brofiad swreal ond un rwy’n awchu amdano”, meddai Hana, oedd ddim yn coelio’r cynnig i ddechrau, wrth golwg360.
“Mae fe bach yn nuts ond cyffrous.
“Wnaethon nhw estyn mas i ofyn os o’n i moyn cefnogi nhw yng Nghaerdydd ar y ddwy noson, ac i ddechrau doeddwn ddim yn credu’r ebost.
“Achos yn amlwg os ti’n cael rhywbeth fel yna trwyddo, ti’n meddwl ‘Hmm be?!’
“Ond o’n i’n meddwl fysa’n well ateb jest rhag ofn.”
Ond i’r cyfleoedd y mae hi wedi’u cael i chwarae o amgylch y brifddinas mae’r diolch, meddai Hana.
“Yn sicr mae’r ffaith fy mod wedi cael y cyfleoedd i chwarae o amgylch y brifddinas wedi bod yn amhrisiadwy ac wedi arwain at y cyfle anhygoel yma.
“Mae’r amrediad o leoliadau gigio o amgylch Caerdydd yn arbennig ac rydyn ni mor lwcus yma yng Nghymru efo venues fel Clwb Ifor Bach, The Moon Club – maen nhw mor bwysig i adeiladu crefft ac i’r sîn gerddoriaeth yng Nghmru.”
Disgyn mewn cariad â pherfformio yn yr Eisteddfod
“Fel artist mae fe mor cŵl a fi’n disgwyl ymlaen.
“Cefais amryw o gyfleoedd pan yn ifanc i berfformio ar lwyfannau’r Urdd a’r Genedlaethol.
“Ac o oedran ifanc syrthiais mewn cariad â pherfformio ac rwy’n teimlo mwy cyfforddus ar lwyfan nag mewn unrhyw sefyllfa arall.
“Mewn byd digidol mae’n bwysig gallu perfformio yn fyw a chysylltu yn uniongyrchol â’r gynulleidfa
“Felly mae bod ar lwyfan a gallu perfformio o flaen pobol yn gyfle ffantastig.
“A dw i’n edmygu ethos Coldplay.
“Wrth iddyn nhw deithio o amgylch y byd maen nhw’n gwahodd artistiaid o’r gwledydd gwahanol i berfformio yn eu cyngherddau ac rwy’n teimlo’n hynod o ffodus fy mod yn cael y cyfle anhygoel yma.”
Bwriad Hana gyda’r set yw chwarae ychydig o’r EP ddiweddaraf, Existensial a chynnwys un gân yn y Gymraeg.
“Mae bod yn Gymraes yn rhan fawr o fy hunaniaeth a dw i’n edrych ymlaen at berfformio ar lwyfan y Principality yn cefnogi Coldplay.”