Fel sawl un ohonoch mae’n siŵr, cefais fy swyno yn ystod y cyfnod clo gan ‘Y Pedair’, sef ‘super-group’ cerddorol newydd, wedi ei ffurfio gan y sêr Siân James, Gwenan Gibbard, Gwyneth Glyn, a Meinir Gwilym.
Cefais fy magu ar gerddoriaeth werin, a hynny trwy casét ‘Cilmeri’ roedd gan fy nhad yn y car, a hefyd gan Nain oedd wrth ei bodd yn canu hen ganeuon megis ‘Bugail Aberdyfi’. Wnes i chwarae’r delyn fy hun pan oeddwn yn yr ysgol, ac roedd gen i lyfr ar un adeg oedd yn sôn am y delyn deires – er ddim ond yn ddiweddar gwelais un yn y cnawd.
Yn ystod y nawdegau hwyr, roeddwn yn treulio cryn dipyn o amser yn mynychu nosweithiau cerddoriaeth werin Geltaidd yn nhafarnau Wrecsam, er, yn eironig ddigon, bandiau Gwyddeleg oedd fel arfer wrthi’n perfformio, gan gynnwys y gân anfarwol ‘The Green Fields of France’, wedi ei sgwennu gan Eric Bogle, cerddor Awstralaidd aned yn yr Alban – twist ddifyr!
Roedd gen i freuddwyd o fynychu Prifysgol Queen’s yn Belfast, i astudio Anthropoleg Gymdeithasol gydag Astudiaethau Celtaidd a chael ymdrochi mewn cymysgedd o’r math yma o ddiwylliant a cherddoriaeth; meddyliais I y byswn yn mewnforio bach o Gymraeg…!
Felly pan welais fod un o fy hoff gerddorion, Meinir Gwilym, mewn band newydd oedd yn cyfuno’r math yma o gerddoriaeth, gan roi sbin ffres arni, roeddwn wrth fy modd! Lawrlwythais yr albwm i’r i-pad, ond yna wrth weld y CD ar y cownter yn Siop y Siswrn, wnes i drîtio fy hun fel y medrwn wrando arni yn y car hefyd.
Nôl yn Eisteddfod Tregaron, cefais sgwrs hefo Gwyneth Glyn, a hithau yn sôn fod Pedair yn meddwl dod i’r Saith Seren ryw dro. Perffaith! Dechreuais humbuggio Chris Evans (y Cadeirydd) ond roedd o yn barod yn frwdfrydig. Rhoddwyd nawdd hael gan Gyngor Dinas-Sir Wrecsam, a threfnwyd y noson.
Cymdeithas Gymraeg Llangollen
Digwydd bod, dewiswyd yr un dyddiad ag yr oeddwn yn barod wedi trefnu i roi cyflwyniad o fy ngwaith creadigol i Gymdeithas Cymraeg Llangollen yn gynharach yn y noson, felly wnes i fethu perfformiad Cerys Hafana a’i thelyn deires (wnaeth agor i Pedair); wna i drefnu i fynychu noson ganddi hi rywbryd eto. Ond am noson braf a Chymreig i fi, felly, oedd nos Wener, 31ain o Fawrth!
Es draw i Langollen i siarad hefo’r grŵp hyfryd ene, trwy gyfrwng y Gymraeg, am fy nhaith o fod yn ddarlithydd i weithio fel bardd, llenor, ac artist llawrydd. Ar ôl trafod fy mhrosiect hirdymor, amlgyfrwng ‘Y Dywysoges Arian’, darllenais gerddi o fy mhamffled newydd o farddoniaeth ddwyieithog sef ‘Trawiad/Seizure’. Roeddent yn gynulleidfa hyfryd a chefnogol, a wnaethon nhw ddweud lot o bethau cadarnhaol a chlên am fy ngwaith. Roeddwn yn llawn bwrlwm a hapusrwydd, felly, wrth i mi neidio yn y car a gyrru lawr yr allt i Wrecsam.
Y Pedair yn y Saith
Cyrhaeddais cyn i Pedair ddechrau perfformio, ac mi roedd un o fy ffrindiau, Ieuan Cilgwri, yn eistedd yng nghanol y dafarn, ac roedd yna sêt sbâr nesaf iddo – perffaith!
Roedd y Saith wedi ei rigio’n llawn o offer sain, ac o ganlyniad mi roedd hi fel masterclass o ran sut i wneud gwaith sain; clywais yn well na hyd yn oed wrth wrando adre hefo fy headphones £300, neu yn fy nghar hefo’r sain ar max! Clywais y geiriau yn glir – rhai doeddwn heb ei adnabod o’r blaen.
Roedd y perfformiadau’n arbennig, yn enwedig Meinir Gwilym a’i llais umami, ac mi roedd yn ben-blwydd yn ddeugain oed arni hefyd, wedi ei amlygu gan y balŵns aur siâp 40 ar y llwyfan, a’r ffaith fod Meinir ei hun yn cyfeirio ato trwy’r nos!
Mi wnaeth y Prifardd Twm Morys ddarllen englyn yr oedd wedi’i sgwennu i ddathlu’r achlysur, ac mi roedd yr holl awyrgylch yn hyfryd, hyfryd! A do, cefais y cyfle i ffan–girlio Meinir gydag ugain mlynedd o atgofion a brwdfrydedd!
Oes aur Cymreictod yn y fro?
Mi roedd Marc Jones ene, sef sylfaenydd y Saith Seren, a dywedais wrtho fod rhaid ei fod o’n teimlo’n browd ar noson fel hyn; gwenodd yn swil cyn cyfaddef ei fod o’n browd iawn.
Bu Marc a finnau wrthi’n rhyfeddu ar y noson, a’r sefyllfa iaith yn gyffredinol. Peidiwch â fy nghamddeall chwaith, dwi wedi cael profiadau heriol gwrth-Gymraeg yn ddiwedddar, gan gynnwys yn y Saith ei hun, ac mae yna ffor’ i fynd eto felly. Ond mi roedd yn teimlo fel ein bod ni’n troi cornel.
Roedd pethau mor llwm ar y Gymraeg yn yr ‘80au a ‘90au yn Wrecsam, fyswn byth wedi dychmygu noson gyfan o fy mywyd trwy gyfrwng y Gymraeg fel yr un ges i, nac ychwaith fel y noson ‘Sŵn yn y Stiwt’ ac Eisteddfod Dysgwyr y Gogledd-Ddwyrain draw yn adeilad swanc Coleg Cambria; mae hi wir yn teimlo fel oes aur Cymreictod ym mro fy mebyd ar hyn o bryd!